Mae cyfundrefn newyddion ein gwlad, boed ar radio neu deledu neu yn y Wasg, yn adrodd ar unigolion, sefydliadau a phleidiau. Rwy’n derbyn hynny, ond dydw i ddim yn disgwyl i’r rhai sy’n cyflwyno ac yn holi ymddwyn fel parasitiaid yn gwledda ar gyrff, fel sydd wedi digwydd yn achos trafferthion diweddar Plaid Cymru; na, rwy’n disgwyl adrodd teg a chytbwys gan fod dwy ochr i bob stori, ac nis cafwyd yn gyffredinol gan y cyfryngau yn y dyddiau d’wetha yma.