Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor i aelod o gôr

Annwyl Rhian

Rwyf i mewn picil anferthol wedi un gusan feddw gydag Arweinydd y Côr. Mae’r Arweinydd yn fachan ffein ac ry’ ni’n dod ymlaen yn grêt. Ond wnes i fyth feddwl bydde dim byd rhyngto ni, gan fy mod i ryw naw mlynedd yn henach na fe. Pan symudodd e i’r ardal rhyw flwyddyn yn ôl ro’n ni ferched y côr i gyd wedi gwirioni – athro Cerdd yr ysgol Gymraeg leol, â llond pen o Gymrâg coleg, carisma a phen da o wallt gydag e. Roedden ni’n trafod e dros botel o win yn nhai ein gilydd, yn holi a oedd wejen gydag e – doedd yr un!

A ddigwyddes i weld e’n y clwb rygbi tros y Pasg, a gethon ni reial gwd laff wrth y bar… ac ar y ffordd gartre, rywsut, geson ni gusan. Wedd e’n hyfryd, ond ers y noson ‘ny, mae fe wedi’n osgoi i. Wedi osgoi dal fy llyged i a phopeth. Sa i eisiau rhoi’r gore i’r côr, ond ma fe’n sefyllfa letchwith ar y jiawl… Ddylen i gonffrynto fe?

Pan oeddwn i’n ifanc, slawer dydd, mi fyddwn i’n darllen y cylchgrawn Jackie yn wythnosol. Cylchgrawn i ferched yn eu harddegau oedd hwn, ac un o’r tudalennau cynta y byddwn i’n troi ato oedd y problem page. Yn aml fe fyddai yna broblem debyg i’ch un chi – rhywun wedi derbyn un gusan gan fachgen ei breuddwydion – a hwnnw wedi ei hanwybyddu byth wedyn. Tydi’r ffordd rydan ni’n ymddwyn mewn materion o gariad ddim yn newid wrth i ni dyfu fyny, mae’n amlwg, ac mae eich problem chi yn un hynod o gyffredin dw i’n siŵr.

Ond pam yr anwybyddu? Gall fod amryw o resymau.

Yn gyntaf, rhaid gofyn pa mor feddw oeddach chi? Oedd O yn feddw iawn? Os oedd, mae yna siawns nad ydi o’n cofio’n iawn be ddigwyddodd – er mae’r ffaith ei fod yn ymddwyn yn wahanol tuag atoch chi rŵan yn awgrymu ei fod o. Efallai fod ganddo gywilydd o’r stâd yr oedd o ynddo, a dyna pam mae o’n osgoi eich llygaid.

Hwyrach ei fod o’n swil. Tydi’r ffaith ei fod o’n ddyn caristmataidd, yn athro sy’n sefyll o flaen dosbarth yn ddyddiol, ac yn arweinydd côr o oedolion, ddim yn golygu nad ydi o’n swil pan mae’n dod i faterion emosiynol. Hwyrach fod y gusan wedi deffro teimladau ynddo nad oedd o yn eu disgwyl, nac yn eu deall, a tydi o ddim yn gwybod sut i ddelio efo nhw. Hwyrach ei fod o wedi cael ei frifo yn y gorffennol, a rŵan yn ofni camu i berthynas arall. Efallai ei fod o’n un o’r bobl yma sydd ddim ar gael yn emosiynol – y math o berson fyddai’n anodd iawn cael perthynas hawdd a hapus efo fo. Hwyrach nad ydi o’n barod i gael perthynas efo chi, na neb arall ar y funud, neu ella nad oedd y gusan yn golygu dim iddo fo, a’i fod o’n poeni ei bod hi wedi golygu mwy i chi – a tydi o ddim yn gwybod sut i ddelio efo hynny.

Dim ond y fo sydd yn gwybod yr ateb ac mae dewis ganddoch chi – un ai cario ymlaen fel arfer a disgwyl iddo ddod at ei goed, gan obeithio yr eith pethau yn ôl fel yr oedden nhw – neu ffeindio cyfle i fod ar ben eich hunan mewn lle tawel a chael sgwrs efo fo am y peth. Rydych chi’n dweud eich bod yn ei weld yn ddyn deniadol, ond hefyd yn dweud nad oeddach chi’n disgwyl y bydda yna unrhyw beth rhyngddo chi – felly, o be wela i, does ganddoch chi ddim byd i’w golli o’i gornelu. Beryg y byddwch chi’n teimlo’n lletchwith, ond gan fod pethau’n lletchwith yn barod, fedar o ddim gwneud pethau’n llawer gwaeth. Os ydi dod o hyd i’r geiriau cywir yn anodd i chi, beth am rywbeth fel: ‘Tydw I ddim wedi cael cyfla i siarad efo chdi ers Pasg, jesd eisiau dweud wnes i fwynhau ein sgwrs ni (does dim rhaid sôn am y gusan!) ond dw i’n deall yn iawn os nad wyt ti eisiau mynd â phetha ymhellach, felly jesd mêts ia?’

Mi fydd hyn yn agor cîl y drws iddo fo ddweud yn wahanol, os mai dyna sut mae o’n teimlo.

Mae yna ran ohona i sy’n cael fy nhemtio i ddweud wrtha chi am ofyn iddo fo: ‘beth sy’n bod arna chdi yn cau edrych arna fi ers Pasg – mond cusan oedd o!’

Ond beryg y basa hynna ond yn gwneud pethau yn fwy lletchwith!

Gyda llaw, tydw i ddim yn gweld y bwlch oedran o naw mlynedd rhwng cyplau yn broblem – dw i’n gwybod am lawer o gyplau efo bwlch llawer mwy sydd mewn perthynas hapus ers blynyddoedd lawer.

A beth bynnag ddigwyddith, peidiwch â gadael i un gusan ddifetha eich mwynhad o fod yn aelod o’r côr!