Mae’r menywod a fu’n gweithredu gyda Chymdeithas yr Iaith yn “gymeriadau cryfach” o’r herwydd, yn ôl Angharad Tomos…

Mae llyfr newydd, Merched Peryglus, yn cynnwys profiadau rhai o’r merched a fu’n rhan o weithgareddau Cymdeithas yr Iaith ers y 1960au.

Golygyddion y gyfrol yw Angharad Tomos, un o brif ymgyrchwyr benywaidd y Gymdeithas ers y 1970au, a Tamsin Davies, a ymaelododd â’r mudiad yn 2012.