Mae gitarydd un o grwpiau mwyaf hirhoedlog Cymru yn cael mwy o hwyl yn perfformio nawr na chafodd ers blynyddoedd.

Dydy Barry ‘Archie’ Jones heb weld cynulleidfa Celt mewn cystal hwyliau ers tro byd, a bydd y criw o Fethesda’n perfformio ym mro eu mebyd dros yr ŵyl.

Archie sy’n gyfrifol am gyfansoddi’r rhan fwyaf o ganeuon Celt, ynghyd â rhai o anthemau Bryn Fôn megis ‘Un Funud Fach’, ac yn fwy diweddar mae wedi troi at sgrifennu cyfresi comedi i’r teledu.