Mae arbenigwr ar Dryweryn yn giamstar ar gerddoriaeth werin ac wrth ei fodd yn hel ei bac a chrwydro’r byd.

Plisman oedd tad Dr Wyn Thomas, sydd wedi ei fagu’n bennaf yn ochrau Llandrindod ym Mhowys, a bu gwaith ei dad yn ysgogiad i’w ddiddordeb yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig.

Tryweryn: A New Dawn? ydy cyfrol ddiweddaraf Wyn, sy’n byw yng Nghaerfyrddin gyda’i wraig Sue.