Daeth blwyddyn brysur Chris ‘Flamebaster’ Roberts i ben gyda thaith i Sgandinafia a gwledda gyda pherthnasau yn Norwy.

Nawr, mae’r cogydd adnabyddus o Gaernarfon yn edrych ymlaen at gael pythefnos i ffwrdd dros y Nadolig, a hynny am y tro cyntaf ers tua deunaw mlynedd, i gael treulio amser gyda’i deulu ifanc.