Mae drama newydd yn rhoi llwyfan i leisiau “nad ydyn nhw’n cael eu clywed yn ddigon aml ar y llwyfan”….

Ers diwedd mis Tachwedd mae sioe fach hudol, amlieithog wedi bod ar daith yn cydio yn nychymyg cynulleidfaoedd ifanc.

Y cynhyrchiad yw Swyn gan Theatr Genedlaethol Cymru, sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) yn rhan greiddiol o’r cynhyrchiad ei hun.