Efallai y dylwn i ddechrau drwy egluro beth yw cyfres newydd S4C, Y Prif, achos nid yw enw’r rhaglen ar ei ben ei hun yn dweud llawer nag ydi? Mae enwau sâl ar raglenni yn fy nghorddi i braidd a dyma’r diweddaraf. Nid yw “prif” ar ei ben ei hun yn golygu dim… ydi o’n enw hyd yn oed? Ansoddair ydi o gan amlaf ia ddim?