Mae cwmni coedwigaeth o Lundain wedi gwneud tro pedol ynghylch eu cynlluniau ar gyfer fferm maen nhw wedi’i phrynu yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn pwysau gan bobol leol.

Dywed cwmni Foresight, sydd â’i bencadlys yn y Shard yn Llundain, eu bod nhw wedi prynu fferm Frongoch yng Nghwrt y Cadno, a thair ffarm arall.

Roedd bron i 12,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau ac yn mynegi pryderon am y bwriad i blannu coed ar dir amaethyddol cynhyrchiol Fron-goch.

Yn dilyn cyfarfod ym Mhumsaint neithiwr (nos Iau, Ionawr 27), daeth cadarnhad gan Iwan Parry, Rheolwr Rhanbarthol Tillhill, fod y cynllun bellach wedi cael ei newid yn sylweddol o ganlyniad i’r ymateb lleol.

Tyfu coed ar dir ffrwythlon

Yn ôl trigolion sy’n byw ym mhentref Cwrt-y-cadno a gogledd Dyffryn Cothi, roedd y cwmni ecwiti preifat sydd wedi ei chofrestru yn Llundain wedi prynu fferm yn yr ardal, gyda’r bwriad o blannu coed conwydd masnachol ac anfrodorol ar y tir.

Daw hyn wrth i nifer o gwmnïau o du allan i Gymru brynu tir amaeth yma er mwyn plannu coed, sydd yn ei dro am wrthbwyso eu hallyriadau carbon blynyddol.

Roedd trigolion a ffermwyr Dyffryn Cothi yn gofidio y byddai’r cynlluniau diweddar gan gwmni Foresight Group Holdings Ltd yn “dinistrio tir amaeth cynhyrchiol” ac yn cael “effaith andwyol ar fioamrywiaeth frodorol ac ecosystemau lleol”.

Roedden nhw wedi bod yn galw ar y cwmni gwerth miliynau o bunnoedd i ddiwygio eu cynlluniau a phlannu coed brodorol ar dir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio.

‘Dan fygythiad o gael ei ddinistrio’

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd deiseb ei sefydlu ar-lein gan Rhiannon Lewis, sy’n byw yn lleol, ac roedd wedi denu miloedd o lofnodion.

Nododd hi ar y dudalen fod yr ardal wedi ei dynodi’n Ardal Tirwedd Arbennig gan Gyngor Sir Caerfyrddin, yn ogystal â Thirwedd Hanesyddol Gofrestredig gan gorff Cadw.

“Mae dan fygythiad o gael ei ddinistrio’n ddi-droi’n-ôl ar hyn o bryd,” meddai wrth gyflwyno ei deiseb.

“Mae cwmni ecwiti preifat corfforedig o Guernsey, Foresight Group Holdings Ltd, sydd wedi ei gofrestru yn y Shard yn Llundain, wedi prynu fferm gyfan – Frongoch – yng nghanol y cwm.

“Eu cynllun gwreiddiol oedd plannu conwydd masnachol, anfrodorol dros y rhan fwyaf o’r caeau a’r llethrau presennol, gan werthu credydau carbon i’w buddsoddwyr ariannol er elw.

“Byddai planhigfa arfaethedig o’r fath yn dinistrio tir amaethyddol cynhyrchiol, ar lawr y dyffryn ac ar gopa’r bryn, sydd wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio defaid yn gynaliadwy ers cenedlaethau.

“Byddai rhywogaeth o goed ungnwd o Sbriws Sitca (Sitka Spruce) a Ffynidwydd Douglas (Douglas Fir) yn cael effaith andwyol ar fioamrywiaeth frodorol ac ecosystemau lleol. Byddai’n difetha tirwedd y dyffryn yn ddiwrthdro.”

‘Gwarchod prydferthwch y dyffryn hwn’

Mae nodyn ar y ddeiseb yn dweud bod y cwmni “wedi gwneud cais am arian trethdalwyr Cymreig i dalu am eu costau plannu”, a hynny er gwaetha’r ffaith fod y cwmni “wedi ei ymgorffori’n alltraeth”.

“Rydyn ni’n grŵp o ffermwyr a thrigolion lleol sydd eisiau i Foresight newid eu cynlluniau,” meddai Rhiannon Lewis.

“Y newyddion da yw bod Foresight bellach wedi nodi eu bod yn barod i wrando ar y gymuned leol ac i addasu eu cynlluniau, ond mae angen i ni barhau i nodi ein gwrthwynebiad.

“Rydyn ni’n ymbil ar Foresight i adael y caeau amaethyddol ar gyfer ffermio a phlannu rhywogaethau coed llydanddail a chollddail, sy’n frodorol i Ynysoedd Prydain yn unol â’r dirwedd naturiol.

“Helpwch ni i warchod prydferthwch y dyffryn hwn a gwarchod cefn gwlad Cymru. Arwyddwch ein deiseb.”

‘Halogiad amlwg’

Roedd Tina Marshall, un a lofnododd y ddeiseb ac sy’n byw yn lleol, yn dweud ei bod hi wedi llofnodi’r ddeiseb oherwydd bod y cynlluniau yn “halogiad amlwg o amgylchedd gwaith a diwylliannol hirsefydlog gyda buddion amgylcheddol amheus iawn, ac sydd yn sicr â’r buddion lleiaf i’r gymuned hon”.

Dywedodd Dawn Thomas, un arall a’i llofnododd, ei bod hi’n “ymddangos mai’r cymhelliad yma yw arian yn unig ar draul treftadaeth ac ecosystem fregus”.

“Dydy ‘gwyrddgalchu’ ddim yn lliniaru’r pryder gwirioneddol i’n hamgylchedd,” meddai.

Ychwanegodd John Gardner “na ddylai grwpiau ecwiti alltraeth sy’n chwilio am arian cyflym wneud hynny ar draul tir amaeth Cymreig neu les Cymru”.

Mae golwg360 wedi cysylltu â chwmni Foresight Group Holdings Ltd am sylw.

Plannu coed yn helaeth ar dir amaethyddol am “ladd cymdeithasau”

“Rydyn ni wedi gweld beth sydd wedi digwydd yma, yr effaith mae hynny wedi’i gael yma yng nghefn gwlad, i fi mae o jyst cyn waethed â boddi Tryweryn”

Galw am sicrhau bod budd adnoddau naturiol Cymru’n aros yn y wlad

Cyngor Gwynedd yn cytuno i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i newid canllawiau er mwyn sicrhau nad yw cwmnïau mawr yn prynu tir i blannu coed