Mewn datganiad yn ymateb i Adolygiad Gwariant y Canghellor, Rishi Sunak, mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi dweud ei bod yn anhapus iawn ynglŷn â’r setliad cyfalaf “hynod siomedig” sydd yn “llawer llai na’r hyn a ddisgwyliwyd.”

Mynegodd hefyd ei “phryder a’i siom aruthrol bod addewidion wedi cael eu torri a’r penderfyniadau anghywir wedi cael eu gwneud”.

Pwysau ar gyllid cyhoeddus Cymru

Dywedodd y Gweinidog Cyllid “nad oedd setliad heddiw yn cynnig unrhyw beth newydd i Gymru.”

“Er gwaethaf galwadau i Lywodraeth y DU ddarparu sicrwydd hirdymor i gymunedau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan stormydd a materion diogelwch tomenni glo, cafodd blaenoriaethau Cymreig eu hanwybyddu,” meddai’r Gweinidog.

Mae hefyd yn rhoi pwysau sylweddol ar gyllid cyhoeddus Cymru, meddai.

“Mae Llywodraeth y DU yn siarad yn fras am fuddsoddi mewn adferiad, ond mae’n gwrthod buddsoddi ynddo. Mae ffigurau heddiw yn tanseilio ein gallu i gynllunio ar gyfer ein hadferiad, a buddsoddi ynddo, yn llwyr.”

“Lloegr yn unig”

“Methodd y Canghellor gydnabod hefyd yn ei ddatganiadau heddiw mai i Loegr yn unig y mae unrhyw setliadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer sawl blwyddyn yn berthnasol – dydyn nhw ddim yn berthnasol i Gymru. Mae’r dasg sy’n ein hwynebu ar gyfer cynllunio at y dyfodol yn anodd iawn felly.”

“Gallai’r Canghellor fod wedi defnyddio ei ddatganiad heddiw i gyflwyno setliad hirdymor sy’n cydnabod o’r diwedd y pryder sy’n cael ei deimlo ymhlith cymunedau a gafodd eu heffeithio gan lifogydd a chan oblygiadau sy’n deillio o’n hen byllau glo,” ychwanegodd.

Cymru dan anfantais

“Yr hyn a oedd yn gwbl glir o’r datganiad heddiw yw bod Cymru yn mynd i fod o dan anfantais sylweddol, diolch i lywodraeth sy’n torri ei holl addewidion ynglŷn ag arian yn lle cyllid yr UE.”

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi galw ar y Canghellor i ymwrthod yn llwyr rhag rhewi cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac wedi ei annog i ddefnyddio “ysgogiadau Trysorlys y DU i gefnogi chwarae teg a galw economaidd” gan ddweud bod y penderfyniad i rewi cyflogau “yn annheg ac yn diystyru’r aberth y mae gweithwyr y rheng flaen wedi’i wneud gydol yr argyfwng”.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn tynnu sylw at y ffaith na wnaed addewid i ddiogelu’r cynnydd i Gredyd Cynhwysol at y dyfodol.

“Mae’r ffaith bod y Canghellor wedi gwrthod diogelu taliadau Credyd Cynhwysol yn golygu bod baich yr argyfwng yn mynd i gael ei roi ar ysgwyddau’r rheini sydd yn y sefyllfa fwyaf anghenus i ddechrau”.

Darllen mwy