Enw llawn: Rachel-Ann Vera Osborn

Dyddiad geni: 19/09/2005

Man geni: Gogledd Cymru


Un o hoff ddiddordebau Rachel-Ann Vera Osborn yw dysgu am hanes a ffigurau hanesyddol. Mae hi’n gwirfoddoli’n wythnosol gydag Archifau Darlledu Conwy ac yn ysgrifennu darnau sy’n cael eu harddangos yn Amgueddfa’r 1950au Dinbych. Ar hyn o bryd, mae’n byw gyda’i rhieni, ei chwaer iau, dwy gath sinsir a thri physgodyn. Ei phrif nod ydy ceisio gwella bywydau unigolion LGBTQIA+ ac anabl yng Nghymru.

“Yn wahanol i lawer o bobol ifanc eraill, rwy’n gwerthfawrogi ac yn cael fy niddori gan yr hyn a ddaeth o’m blaen – o ddeinosoriaid i sêr ffilm y ’50au,” meddai. “Mae gen i ddiddordeb mewn unrhyw beth cyn y flwyddyn 1960. Rwy’ wir yn ymroddedig i atgoffa pobol am hanes yr Ail Ryfel Byd. Mae fy angerdd at hanes wedi trawsnewid fy mywyd ac wedi dod yn rhan o fy mywyd bob dydd. Rwy’n barod iawn i roi fy mywyd i’r gorffennol.”

Ers ei blynyddoedd cynnar, mae hi wedi bod yn delio â heriau parlys yr ymennydd, sef grŵp o gyflyrau sy’n effeithio ar symud ac osgo. Mae’n cael ei achosi gan niwed sy’n digwydd i’r ymennydd sy’n datblygu.

Mae Rachel-Ann yn cael problemau cyfathrebu o bryd i’w gilydd, ac felly mae hi’n defnyddio i-pad i’w helpu i gyfathrebu efo pobol. Mae hi hefyd yn derbyn cymorth ar gyfer bwyta.

“Fe gefais drafferth go iawn i ddechrau gyda sylweddoli bod fy anabledd yn barhaol, ac fe gafodd hynny effaith ar fy iechyd meddwl. Roeddwn i’n ei chael hi’n anodd iawn i ddechrau. Ond ar ôl i mi gofleidio fy hun go iawn a darganfod fy nghariad at hanes, fe wnes i ddarganfod pwrpas a gobaith.”

Dywed ei bod yn ffan mawr o Audrey Hepburn, a bod hynny wedi troi ei sylw oddi wrth realiti ac amgylchiadau anodd bywyd a’i helpu i ddod o hyd i ysbrydoliaeth i fwynhau’r hyn sydd ganddi mewn bywyd.

“Ar ôl ysgrifennu cerdd amdani, fe’i hanfonwyd, trwy ddylunydd gwisgoedd roeddwn i wedi cysylltu â nhw ar Instagram, at fab Audrey Hepburn, Luca Dotti, ac mi gysylltodd o efo fi. Roedd y cyfan fel gwyrth! Fe wnaeth y cyfle hwn ddangos i mi nad oes rhaid i fy anabledd reoli fy mywyd. Mae’r byd yn agored ac yn llawn cyfleoedd newydd y medrai fanteisio arnyn nhw.”

Ffigwr hanesyddol arall sydd wedi ysbrydoli Rachel-Ann yw’r Fonesig Vera Lynn a’i cherddoriaeth.

“Yn fy llygaid i, mae hi’n ymgorffori ymdeimlad o ddwyfoldeb. Mae gan ei llais swynol ffordd o fy symud i ddagrau. I mi, mae hi’n llais yr Ail Ryfel Byd, ac mae gwrando ar ei cherddoriaeth yn ffordd o anrhydeddu pawb oedd yn rhan o’r rhyfel a dod o hyd i obaith.”

Mae Rachel-Ann wedi gwirioni gymaint gyda’i gwaith a’i gwaddol nes iddi benderfynu cynnwys ‘Vera’ yn enw canol iddi ei hun.

Heriau ac ofnau

Mae anabledd Rachel-Ann Osborn yn golygu ei bod hi’n or-sensitif, sy’n golygu bod ei synhwyrau yn fwy dwys na rhai person sydd heb anabledd.

“Rwy’n casáu synau uchel a sydyn, textures anarferol, arogleuon penodol, rhai anifeiliaid, a thymheredd eithafol, oherwydd rwy’n ei chael hi’n anodd symud i ffwrdd oddi wrthyn nhw yn gorfforol neu amddiffyn fy hun. Mae’r pethau hyn yn tueddu i wneud i mi neidio mewn syndod. Fe ddysgais yn ddiweddar fod hyn yn gyffredin mewn pobol â pharlys yr ymennydd. Er mwyn lleihau nifer yr achosion o ofn, rwy’n gwisgo amddiffynwyr clustiau mewn amgylcheddau swnllyd.

“O ran ofnau cyffredin, dwi ddim yn cael fy effeithio mewn gwirionedd. Dwi’n mwynhau gwylio ffilmiau arswyd a bod ofn wrth wneud hynny. Rwy’n ffeindio hynny yn rhyfedd o ymlaciol. Yn rhyfedd ddigon, rwy’n ofni pethau na ddylwn fod yn ofnus ohonyn nhw. Rwy’ wastad wedi bod ag ofn mawr o’r Child Catcher yn y ffilm Chitty Chitty Bang Bang….”

‘Dim cywilydd’

Mae Rachel-Ann nawr yn credu y gall hi wneud “unrhyw beth” mae hi eisiau ei wneud wrth osod ffiniau, ynghyd â derbyn bod pob dim yn bosib os nad yw’n ormod o her yn gorfforol.

“Does gen i ddim cywilydd o fy anabledd; rwy’n falch o hynny, mewn gwirionedd. Mae angen addasu pethau i mi, dyna’r cyfan. Gall fod yn heriol addysgu eraill yn gyson am fy anabledd ac eirioli dros gynwysoldeb.

“Mae llawer o bobol yn gwneud rhagdybiaethau amdanaf yn seiliedig ar fy ymddangosiad, ac yn meddwl nad oes gennyf wybodaeth na dealltwriaeth. Er fy mod i’n ddeunaw oed gyda meddyliau a theimladau aeddfed, rwy’n aml yn cael fy nhrin fel plentyn oherwydd nad ydw i’n gallu cyfathrebu ar lafar. Mae’n rhwystredig.”

Un o uchelgeisiau Rachel-Ann yw lledaenu ymwybyddiaeth a rhoi gwybod i’r cyhoedd y gall pobol anabl fod â phethau sy’n bwysig iddyn nhw – fel rhywioldeb, agosatrwydd, bod mewn perthynas, priodi, cael plant ac ati.

“Mae pobol anabl yn cael eu dadrywioli mor aml,” meddai, gan egluro ei bod hi’n uniaethu â bod yn lesbian.

Un dymuniad arall sydd gan Rachel-Ann yw creu grŵp neu glwb ar gyfer aelodau anabl yn gorfforol o’r gymuned LGBTQIA+. Byddai’r gofod hwn yn caniatáu i unigolion drafod eu hunaniaeth yn agored, a mynd i’r afael â chroestoriad anabledd a hunaniaeth LGBTQIA+.

“Mae llawer ohonom ni yn y gymuned hon yn aml yn teimlo ein bod wedi ein heithrio, felly byddai’n wych i bobol gysylltu ag eraill sy’n rhannu profiadau tebyg… Dim ond syniad!”