Enw Llawn: Ben Rogers Jones

Dyddiad Geni: Chwefror 2ail 1973

Man geni: Bangor, Gwynedd


Mae’r Cymro ac arwerthwr Ben Rogers Jones yn byw yn Llanbrynmair, ond yn teithio ledled Cymru a gwledydd eraill Prydain yn goruchwylio Arwerthiant Cymreig Rogers Jones & Co [Jrogersjonesco], sy’n cael ei chynnal deirgwaith y flwyddyn ac sy’n cynnwys celf Gymreig, hen bethau Cymreig a serameg Cymreig.

“Yn yr ysgol, yn dawel bach roeddwn i am fod yn actor ond, fel plentyn, roeddwn i’n mwynhau darllen ac ysgrifennu ac yn meddwl tybed a oedd newyddiaduraeth yn llwybr gyrfa i mi. Fe wnes i hefyd ystyried y diwydiant hysbysebu. Digwydd bod, mae’r rhain i gyd yn rhan o rôl yr arwerthwr modern – perfformio, hysbysebu, ymchwilio, darllen a llawer o ysgrifennu” meddai.

Gyda’i dad yn arwerthwr, roedd hen bethau a phaentiadau o’u cwmpas o hyd, meddai.

“Yn ddiweddarach, mae’n debyg yn ystod fy arddegau cynnar, dw i’n cofio ymweld ag Amgueddfa Bangor lle roeddwn yn gallu edrych trwy lyfr hen iawn. Dw i ddim yn cofio beth oedd o, ond rwy’n cofio teimlo rhyw bendro ryfedd yn dod drosta i wrth i mi bori drwy’r tudalennau. Dw i ddim yn gwybod a ydi hynny’n deimlad cyffredin i eraill pan fyddan nhw’n trin rhywbeth hen, ond dw i’n dal i deimlo’r bendro ryfedd honno o bryd i’w gilydd.”

Eitemau “anghyffredin”

Mae cymaint o eitemau na fydd Ben Rogers Jones fyth yn anghofio eu gwerthu, meddai. Yn eu plith mae crys Barbariaid 1973 Gareth Edwards. Dyma ydi’r pris arwerthiant uchaf yn ei yrfa hyd yn hyn, sef £240,000, a dyma’r pris arwerthiant uchaf ar gofnod yng Nghymru hefyd.

Bydd hefyd yn cofio torri’r record am baentiad gan Syr Kyffin Williams gydag olew godidog am £62,000.

“Wnâi fyth anghofio chwaith werthu giât flaen Dylan Thomas o’r Boathouse yn Nhalacharn. Roedd y giât wedi cael ei hachub gan yr actor Michael Sheen a chwpl o’i ffrindiau,” meddai.

Uchafbwynt gyrfa arall oedd gwerthu’r ail fersiwn o’r darlun Cymreig enwocaf oll – Salem, gan Sydney Curnow Vosper.

“Mi lwyddais i drafod cytuneb a’i werthu’n breifat i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Ond mae cymaint o uchafbwyntiau wedi bod.”

Mae dweud bod y farchnad celfyddyd gain Gymreig “wedi bod yn fywiog iawn ers blynyddoedd bellach”, yn enwedig o ran paentiadau modern neu’r ugeinfed ganrif, ond hefyd o ran “celfyddyd werin Gymreig fwy cyntefig”.

“Dydy o ddim yn synnu neb i glywed mai Cymry yw’r rhan fwyaf o brynwyr hen bethau Cymreig a chelfyddyd gain Gymreig, neu bobol sydd â chysylltiadau â Chymru – efallai cartrefi yng Nghymru neu dreftadaeth Gymreig,” meddai.

“Rydyn ni’n gwerthu eitemau o Gymru ledled y byd, ond mae’r rhan fwyaf o eitemau yn aros ym Mhrydain, ac mae llawer yn mynd i Gymry sy’n byw yn Lloegr ond Cymru hefyd, wrth gwrs.

“Yn aml, gall prynwyr fod yn Gymry o gefndiroedd cymedrol ond sydd wedi cael gyrfaoedd llwyddiannus, ac erbyn hyn â’r incwm i fwynhau celf a phrynu rhywfaint o’u treftadaeth. Ond mae hefyd o ganlyniad i’r ffaith ein bod ni yn genedl wladgarol. Mae llawer o gasglwyr sydd eisiau dim ond dodrefn Cymreig, celf Gymreig a hen bethau Cymreig yn eu cartrefi yn unig.”

Mae’n sôn bod yna deimlad mai dim ond eitemau gwerinol oedd yn cael eu cynhyrchu yn hanesyddol yng Nghymru – boed hynny’n ddarluniau cyntefig, dodrefn gwledig â nodweddion lleol, neu grochenwaith naïf gwladaidd, meddai.

“Ond ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd ffatrïoedd porslen Abertawe a Nantgarw yn cynhyrchu rhai o’r porslen gorau yn y byd, wedi’u haddurno yn y gweithdai gorau yn Llundain neu gan addurnwyr lleol gorau Cymru.”

Roedd y porslen yn cael ei werthu i “haenau uchaf cymdeithas”, meddai, ac yn cael ei brynu fel arfer i’w arddangos mewn “cypyrddau mewn tai crand yn hytrach na’i ddefnyddio wrth y bwrdd”.

‘Chwalu record y byd’

Mae Ben Rogers Jones a’r cwmni arwerthwyr yn adnabyddus am werthu crysau rygbi, gan eu bod yn dal record y byd am £240,000 – a’r ail safle ar £180,000. Ond fe ddigwyddodd y cyfan “ar ddamwain”, meddai.

“Fe gerddodd dynes i mewn i’n swyddfa yng Nghaerdydd gyda chrys mewn bag Tesco. Fe’i tynnodd o allan o’r bag ac ro’n i’n gwybod yn syth mai crys rygbi y Crysau Duon o 1905 oedd o oherwydd bod ganddyn nhw gwiltio anarferol ar yr ysgwyddau. Roedd rhai ohonyn nhw wedi cael eu gwerthu gan wahanol dai arwerthu, ac yn gyffredinol roedden nhw’n mynd am ryw £20,000 a mwy.”

Fe eglurodd y wraig ei fod wedi dod i’w meddiant trwy ei gŵr. Roedd ei dad o yn gweithio i gyn-gapten Cymru, Gwyn Nicholls, mewn busnes golchi dillad yn Llandaf. Chwaraeodd Gwyn Nicholls dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1905, yn un o’r gemau rygbi enwocaf erioed, gaiff ei galw’n aml yn “gêm y ganrif”. Fe eglurodd fod y capten Gwyn Nicholls wedi ei gyfnewid â Dave Gallaher, capten Seland Newydd.

“Roeddwn i’n gwybod am Dave Gallaher oherwydd fy mod wedi gweld ei gerflun y tu allan i Eden Park yn Auckland; roeddwn hefyd yn gwybod am Dlws Gallaher sy’n cael ei ddyfarnu i enillwyr gêm Ffrainc yn erbyn Seland Newydd. Dywedodd y ddynes gyda’r bag Tesco ei bod yn awyddus i’w werthu gyda ni. Unwaith y dechreuais ymchwilio i hanes Dave Gallaher a’r argraff adawodd ar Rygbi’r Undeb ac ar Seland Newydd, roedd yn amlwg fod y crys hwn yn aruthrol o bwysig. Fe werthodd y crys am £180,000 a chwalodd record y byd arwerthu am eitem rygbi; dyma oedd y pris uchaf ar gofnod mewn ystafell arwerthu yng Nghymru hyd yma hefyd.

“Dwi’n hoffi meddwl inni wneud gwaith trylwyr iawn yn ymchwilio a chyfleu pwysigrwydd y crys, a’i amlygu i farchnad y byd. Dwi’n meddwl mai dyna pam ein bod wedi datblygu i fod y lle i ddod â hen bethau pwysig o rygbi’r undeb.”

Yn 2023, fe dorrodd y cwmni eu record eu hunain pan gafodd crys Barbariaid Gareth Edwards o 1973, ei werthu – y crys roedd yn ei wisgo pan sgoriodd e’r “cais gorau erioed”. Fe werthodd am £240,000.

“Mae’n wir inni fynd i mewn i’r farchnad rygbi ar hap, ond ers hynny, dwi’n gobeithio ein bod wedi dangos mai ni yw’r cwmni arwerthwyr gorau ar gyfer eitemau o’r fath. Ry’n ni’n rhagori ar ymchwil a dod â’r straeon yn fyw. Ry’n ni bellach wedi gwerthu llawer o grysau pwysig i gasglwyr ar draws y byd.”

‘Cymro balch’

Mae Ben Rogers Jones yn ystyried ei hun yn “Gymro balch”, er mai Saesneg yw ei famiaith.

“Y ‘cysylltiad tenau’ oedd bod un Nain wedi cael ei geni yn Lloegr a’r nain a’r teidiau eraill i gyd yn siarad Cymraeg. Felly, yn anffodus, fe ges i a fy mrawd a chwaer ein magu yn siarad Saesneg gan fod Mam, er yn Gymraes, yn ddi-Gymraeg.”

Roedd ei dad yn siarad Cymraeg, ond oherwydd ei fod o’n gweithio oriau hir, Saesneg oedd prif iaith yr aelwyd, eglura. Mae’n sôn mai’r hyn mae’n ei ddifaru fwyaf yw na achubodd ar y cyfle i ddysgu a siarad Cymraeg yn yr ysgol.

“Roedd gan ein hysgol ni, yn y dyddiau hynny, system addysg lle’r oedd y ddwy iaith ar wahân, a chefais fy nysgu yn Saesneg ac roedd fy ffrindiau ysgol i gyd yn siarad Saesneg. Doedden ni ddim yn cymysgu cymaint â hynny gyda’r dosbarthiadau Cymraeg eu hiaith yn y dyddiau hynny. Erbyn hyn, dwi’n siarad Cymraeg gartref gyda fy mhartner a fy mab ac mae’r rhan fwyaf o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg. Ond dydy’r Gymraeg ddim yn lithro oddi ar y dafod fel y mae’r Saesneg yn ei wneud. Dwi’n trio newid hynny, fodd bynnag.”

Mae’n cyfeirio at Gymru fel ei “gartref a ffynhonnell” ei fywoliaeth.

“Mae fy nghwmni’n adnabyddus am werthu eitemau o dreftadaeth Gymreig, eitemau diwylliannol Cymreig ac o hanes Cymru, ac wrth gwrs mae’r iaith Gymraeg yn rhan hollbwysig o hynny i gyd.

“Mae’r Gymraeg yn ‘USP’ ac, heb yr iaith, byddem yn colli llawer o’n hunaniaeth. Yr hunaniaeth Gymreig unigryw hon sy’n creu balchder yn ein Cymreictod sydd, yn ei dro, yn cael casglwyr i brynu pethau Cymreig i’w cartrefi gennym ni.

“Gan fy mod yn y busnes treftadaeth Gymreig, dwi’n poeni wrth weld y Gymraeg yn cael ei ddileu, yn arbennig wrth newid enwau tai i’r Saesneg. Ond y rhwystredigaeth mwyaf yw gweld bod datblygwyr tai yn gallu enwi cyfadeiladau tai yn Saesneg. Dwi’n gwyro ‘chydg rwan ond mae’i gyd yn ymwneud â gwerthfawrogi ein treftadaeth a’i diogelu. Gobeithio y bydd ein Harwerthiannau Cymreig yn helpu i hybu a bywiogi ein treftadaeth Gymreig rhywfaint.”

Yr ‘heriau mwyaf’

Yr her fwyaf yw “newid y camargraff gan werthwyr bod yn rhaid anfon eitemau pwysig i Lundain i gael y canlyniadau gorau”, meddai.

“Yn syml, dydy o ddim yn wir. Mae’r byd gymaint yn llai rwan dydy lleoliad daearyddol yr eitem ddim yn ffactor hollbwysig wrth sicrhau’r pris gorau posibl mewn arwerthiant.Yn lle hynny, dylai gwerthwyr ddewis cwmni arwerthu am eu hangerdd, profiad, gwybodaeth, trwyadledd, eu sylw i fanylder a sgiliau marchnata creadigol…ac, os ydyn nhw’n lleol ac yn cyflogi pobol yng Nghymru, gorau oll. Dwi’n aml yn clywed y pryderon hyn ynghylch gwerthu eitemau yng Nghymru gan bobol rwy’n eu hystyried yn gwbl Gymreig; Cymry Cymraeg a hyd yn oed pobol â gogwydd wleidyddol annibynnol.

Ei freuddwyd bennaf, meddai, yw dangos bod tŷ arwerthu Cymreig yn gallu “cystadlu ag unrhyw un arall”, a hynny ar lwyfan y byd. Ac yn y pen draw, y bydd llwyddiant a thwf cwmni Rogers Jones yn “ysbrydoliaeth i bobol fusnes Cymru yn y dyfodol”.

Petai’n cael pryd bwyd gydag unrhyw un (yn fyw neu’n farw), byddai’n dewis cael “un pryd olaf” gyda’i dad.

“Fe hoffwn i ddiolch yn iawn iddo am fy ngwahodd i’r diwydiant bendigedig hwn a’m rhoi ar y rostrwm. Mae’n debyg y byddem yn bwyta lasagne parod o M&S y byddai’n malu lot gormod o bupur arno fo, ynghyd â gwydraid o Merlot.”