Roedd sawl rhan o Gymru wedi deffro ar fore Iau (Mawrth 28) i weld trwch o eira dros nos. Fe wnaeth eira ddisgyn dros ardaloedd yn Abertawe, a rhannau o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Gwynedd.
Roedd Rhian Cadwaladr, yr awdur, actor a cholofnydd Golwg, wedi bod allan efo’i chamera ger ei chartref yn Rhosgadfan ger Caernarfon i dynnu’r llun yma.
“Wnes i ddeffro’n hwyr i glywed sŵn plant yn y cae o flaen y tŷ – rhywbeth anghyffredin unrhyw adeg, ond yn sicr yr adeg yna o’r bore. Agor y llenni i’w gweld nhw yn gwneud hwn! Mi wnes i redeg allan ar ôl iddyn nhw fynd a rhoi’r het yma ar ei ben!” meddai.