Dyma gyfres newydd sy’n cael cip ar gartrefi rhai o wynebau adnabyddus Cymru. Yr artist Dewi Tudur, sy’n dod o’r Wyddgrug yn wreiddiol, sy’n agor y drws i’w gartref yn Swydd Gaer yr wythnos hon. Y llynedd, fe symudodd o Tuscany yn yr Eidal i Davenham…
Roedd yn benderfyniad anodd dweud ffarwel â’r Eidal ar ôl bron i 15 mlynedd yno. Rydan ni yma yn Davenham, Swydd Gaer ers blwyddyn union. Y tro cyntaf i mi fyw yn Lloegr a’r tro cyntaf i mi fyw dafliad carreg o dafarn. Mi fydda’i yn cynddeiriogi’r trigolion lleol wrth ynganu’r lle yn Dafynham yn lle Davenham, ac yn siarad Eidaleg neu Gymraeg dan fy ngwynt ar adegau! Mae gen i hawl, on’d oes?
Wyth wythnos gymerodd hi i brynu’r tŷ bach yma, o’i gymharu â dwy flynedd i brynu’r ffermdy yn Toscana. Gymaint o fiwrocratiaeth! Fel y gallwch chi ddychmygu, mae Davenham yn fyd gwahanol i gefn gwlad yr Eidal. Dim cymdogion o foch gwyllt, ceirw a bleiddiaid yma!
Mi wnes i rywbeth go fentrus a phrynu’r tŷ heb ei weld. Roedd amryw yn dweud wrtha’i bod tai yn gwerthu yn gyflym yma, felly doedd gen i ddim dewis ond cytuno o bellafoedd Yr Eidal.
Y dynfa yma i Davenham oedd cael bod ’nôl ymysg teulu a’r awch am gysur. Roedd gaeafau Toscana yn anodd, a’r gwaith parhaus o wneud yn siŵr bod coed tân ganddon ni. Yma, dim ond pwyso botwm, ac mae’r tŷ yn gynnes mewn dim. Roedd angen gwaith cyson ar Vignacce circa 1584. Yma, doedd dim angen gwneud dim, ond ambell i gôt o baent.
Fy hoff ’stafell ydi’r gegin, o bosib, gan fy mod i’n cael cysur yn coginio. PG Tips yma yn Davenham o’i gymharu â latte macchiato yn Donnini.
Does dim erwau o dir olewydd a choed cypreswydden bellach – dim ond gardd fechan â dim gwaith. Mi oedd hi reit dorcalonnus gorfod gadael ein cŵn ar ôl yn yr Eidal. Doedd dim posib eu cael yma mewn tŷ bychan, a hwythau yn cyfarth yn ddi-baid. Parthed y dywediad ‘Codi cyn cŵn Caer’, dyma deitl fy nghyfres newydd o waith ar gyfer sioe mis Hydref yn Oriel Ffin y Parc, Llandudno.