Mae’r gwrthdaro presennol yng ngwlad Iesu gynt yn deillio o gyfnod y Cymro David Lloyd George, yn ôl neges Pasg yr Annibynwyr Cymraeg.
Roedd y prif weinidog o Gymro’n flaenllaw yn y broses o sefydlu’r wladwriaeth Iddewig.
Dywed y Parchedig Jeff Williams y byddai’n cymryd gwyrth debyg i’r Pasg i ddatrys yr elyniaeth bresennol rhwng pobol Palesteina ac Israel.
“Wrth i ni edrych mewn arswyd ar wrthdaro’r Pasg hwn yn Gaza, lle’r ymwelais i fi hun ddwywaith o’r blaen, dylem gofio gwers hanes a’r cysylltiad Cymreig,” meddai.
“Ganrif yn ôl, bu David Lloyd George yn flaenllaw yn y broses o sicrhau ‘cartref cenedlaethol’ Iddewig ym Mhalesteina, a reolwyd bryd hynny gan Brydain, heb fawr o ystyriaeth i’r Palestiniaid a oedd yn byw yno.
“Yn y blynyddoedd ers hynny, gyrrwyd cannoedd o filoedd o Balestiniaid o’u cartrefi i fod yn ffoaduriaid yn Gaza a’r Llain Orllewinol.
“O ystyried y gwrthdaro presennol yn benodol, byddai’n cymryd gwyrth i ddatrys yr elyniaeth hir yma.
“Ond mae’r Pasg yn ein hatgoffa ni bod gwyrthiau’n medru digwydd.
“Mae’r Bedd Gwag yn arwydd tragwyddol o’r cariad dwyfol a all oresgyn gwrthdaro a marwolaeth, torcalon ac anobaith, yn ein bywydau personol ac yn y byd. Gweddïwn am y wyrth y Pasg hwn.”
(Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn cynrychioli Cristnogion anghydffurfiol sy’n cwrdd mewn tua 350 o gapeli ledled Cymru)