Mae eglwysi’n gobeithio manteisio ar gyfres deledu i roi hwb i Daith Pererin gogledd Cymru.
Mae cyfres Pilgrimage y BBC wedi dychwelyd am gyfres arall, gan ymweld ag eglwysi yng nghanol tirweddau trawiadol y gogledd yn y bennod The Road to Wild Wales, sy’n cael ei darlledu heno (nos Wener, Mawrth 29).
Gall gwylwyr ddisgwyl gweld wynebau cyfarwydd, gan i dri ficer o Esgobaeth Bangor gymryd rhan yn y broses o greu’r gyfres, sy’n addo archwilaid unigryw o ffydd ac ysbrydolrwydd.
Bydd saith o enwogion, sy’n cynrychioli credoau amrywiol, yn cychwyn ar bererindod fodern ar hyd Taith Pererin y gogledd.
Daw’r daith i ben ar Ynys Enlli, neu “ynys yr 20,000 o seintiau”.
Mannau myfyrio
Fe fu’r Parchedig Eryl Parry, Offeiriad Arloesi yn Nyffryn Conwy a Chaplan ar Enlli, yn cyfarfod â’r pererinion wrth iddyn nhw deithio i eglwysi anghysbell Sant Celynnin, uwchben Conwy,
“Mae Llangelynnin yn cael ei disgrifio’n aml fel lle tenau lle mae’r nefoedd yn cyffwrdd â’r ddaear,” meddai.
Yn dyddio’n ôl i’r deuddegfed ganrif, mae Llangelynnin wedi’i lleoli wrth ymyl ffynnon sanctaidd o’r chweched ganrif, ac mae’n lle poblogaidd i bererinion ar Daith Pererin gogledd Cymru.
Yn y lle sanctaidd hwn, mae Eryl Parry yn trefnu gwasanaethau Addoli Celtaidd misol rhwng mis Ebrill a mis Hydref, ac eleni mae pob gwasanaeth yn archwilio thema pererindod.
“Rydym yn gobeithio y bydd y gyfres Pilgrimage gan y BBC yn helpu pobol i ddarganfod o’r newydd yr ysbrydolrwydd dwfn sydd wedi ymwreiddio yn ein tirwedd yng Nghymru,” meddai.
“Roeddwn i’n teimlo’n freintiedig i dreulio amser gyda’r rhai y daeth Duw â nhw i Langelynnin ar gyfer y rhaglen, pawb o’r pererinion i’r tîm cynhyrchu.
“Cawson nhw gyfle i archwilio Llangelynnin drostyn nhw eu hunain cyn i mi eu harwain ar daith gerdded fyfyriol i fan gwylio.
“Yn aml ar bererindod, gallwn gael y profiad o Dduw yn siarad trwy ein sgyrsiau â’n gilydd, ond rwy’n gweld bod cyfnodau o lonyddwch mewn mannau aros yn gallu dod yn arwyddocaol iawn.
“Ein henw ar y rhain yw ‘Mannau Myfyrio’ – pan all Duw arwain ein meddyliau a chyffwrdd ein calonnau wrth i ni fyfyrio ar yr hyn rydyn ni wedi’i weld a’i glywed. Dyna pryd y gall y daith fewnol ddechrau go iawn.”
I Eryl Parry, mae’r rhaglen yn cyd-fynd â dechrau eu tymor pererindod addoli Celtaidd.
“I ni, ni ellid ei darlledu ar amser gwell ac rydym yn rhagweld diddordeb o’r newydd mewn llwybrau a lleoedd hynafol wrth i bobol sylweddoli y gallan nhw gysylltu â Duw ar bererindod yng ngogledd Cymru,” meddai.
“Mae ein cyfres o wasanaethau 2024 ein hunain yn dechrau gyda’r wawr ar Sul y Pasg.
“O hynny ymlaen, bob trydydd dydd Sul tan fis Hydref, cawn lawenydd ‘Addoli Celtaidd’ a byddwn unwaith eto yn croesawu ystod eang o bobol sy’n ceisio cryfhau eu ffydd neu ddechrau’r daith honno o gyfarfyddiad, i brofi lletygarwch hael Duw.
“Rydyn ni bob amser yn dweud, “Wnewch chi fyth eistedd yn sedd unrhyw un arall.”
Y bererindod
Dechreuodd y bererindod yng Nghastell y Fflint, yn Esgobaeth Llanelwy, ar lannau Aber Afon Dyfrdwy.
O’r fan honno, maen nhw’n cychwyn ar eu hantur 220km ar hyd Taith Pererin gogledd Cymru, gan deithio drwy dirweddau hardd gogledd Cymru.
Wrth iddyn nhw fynd yn eu blaenau, mae’r pererinion yn dod ar draws llwybrau a dringfeydd heriol, gan lywio drwy odreon cadwyni o fynyddoedd mawreddog.
Mae eu llwybr yn eu harwain i Esgobaeth Bangor, lle mae tri offeiriad o Esgobaeth Bangor yn ymuno â nhw, gan ychwanegu dimensiwn ysbrydol at eu taith.
“Unwaith rydych chi’n mynd ar bererindod dydych chi byth yn dod oddi arni,” meddai’r Hybarch Chris Potter, un o ymgynghorwyr y rhaglen.
Mewn cyfweliad ag Esgobaeth Llanelwy, eglura arwyddocâd pererindod Gristnogol.
“Rydych chi’n cychwyn ar daith ac mae eich llygaid yn dechrau agor ac yna mae popeth ynghylch bywyd yn dod yn daith,” meddai.
“Ar bererindod cewch ddedwyddwch a chwysigod! Mae’n rhaid i chi ddysgu cymryd yr hyn a ddaw i’ch rhan.
“Mae’n deimlad rhyfeddol, yn y dyddiau hyn o sgrolio ar eich ffôn neu deithio mewn car, i adael hynny i gyd ar ôl a dim ond cerdded.
“Mae’n ymddangos bod pob un o’r saith pererin wedi eu cyffroi’n lân gan yr holl brofiad.
“Yn sicr, fe wnaethon nhw ffurfio cwlwm agosrwydd fel grŵp ac roedd pawb wedi elwa’n sylweddol ar y profiad.
“Roedd yn gyfnod cyffrous a diddorol iawn.
“Mae’r tîm o wirfoddolwyr y tu ôl i Daith y Pererin yn teimlo’n gyffrous iawn yn wir ac mae gweld y llwybr yn cael ei ddangos yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar y teledu yn rhywbeth cyffrous iawn.”
Ffynnon sanctaidd Eglwys Beuno Sant Clynnog Fawr
Cafodd dau offeiriad arall o Esgobaeth Bangor gyfle hefyd i gwrdd â’r pererinion enwog ar hyd y llwybr.
Fe wnaeth Rosie Dymond, Arweinydd Ardal Weinidogaeth, gyfarfod â’r grŵp ar safle pererindod Clynnog Fawr yng Ngwynedd, lle dywedir bod gan y ffynnon sanctaidd ger Eglwys Beuno Sant briodweddau iachaol.
Ym mhentref pysgota Aberdaron, yr arhosfan olaf i bererinion ar y ffordd i Ynys Enlli, rhannodd y Parchedig Rhun ap Robert arwyddocâd ysbrydol Eglwys Sant Hywyn, arhosfan orffwys i bererinion ar eu ffordd i Ynys Enlli.
Y pererinion
Y pererinion fydd yn mynd ar daith yn y gogledd yw:
- Michaela Strachan, cyflwynydd rhaglenni byd natur, sef ffynhonnell ei ffydd
- Spencer Matthews, cyn-seren y gyfres deledu realaeth Made in Chelsea, gafodd ei fedyddio yn Eglwys Loegr ond sy’n dal i chwilio am atebion i gwestiynau mawr bywyd
- Sonali Shah, newyddiadurwraig a chyflwynydd teledu, gafodd ei magu’n Hindw mewn teulu Jain
- Eshaan Akbar, digrifwr a Mwslim sydd wedi colli ei ffydd
- Amanda Lovett, sy’n Babydd ddaeth i amlygrwydd yn y gyfres deledu Traitors
- Tom Rosenthal, actor ddaeth i amlygrwydd yn y gyfres Friday Night Dinner, ac sydd heb grefydd
- Christine McGuinness, cyflwynydd teledu a chyn-fodel, sy’n ysbrydol ond heb ddilyn ffydd benodol
Mae pob cyfranogwr yn dod â’i bersbectif a’i daith ffydd ei hun i’r daith hon, gan ychwanegu haenau o ddyfnder a hunanymholiad at y naratif.