Mae Deio Owen o Abererch ger Pwllheli wedi’i ethol yn Llywydd nesaf Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.

Cafodd yr enillydd ei gyhoeddi yng nghynhadledd flynyddol yr Undeb ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, roedd Deio Owen yn Llywydd Undeb Myfyrwyr y coleg.

Aeth yn ei flaen i raddio o Brifysgol Caerdydd y llynedd gyda gradd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth, cyn dod yn Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Bydd yn dechrau ei dymor yn ei rôl newydd yr haf hwn, a dywed y bydd yn gweithio er mwn sicrhau bod myfyrwyr yn “cael y fargen orau bosib”.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy rôl newydd fel Llywydd UCM Cymru ym mis Gorffennaf,” meddai.

“Ar ôl bod yn Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg a bellach yn gweithio fel swyddog llawn amser yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, dw i’n gobeithio gwneud y mwyaf o fy mhrofiad mewn addysg bellach ac uwch.

“Rydyn ni ar drobwynt yn y sector addysg ôl-16 yng Nghymru, a dw i’n edrych ymlaen at sicrhau bod myfyrwyr ac undebau myfyrwyr yn cael y fargen orau bosib.”

Diwygio, annibyniaeth a gofal iechyd

Aeth Deio Owen i gynhadledd flynyddol UCM Cymru am y tro cyntaf bedair blynedd yn ôl.

Dywed ei bod yn braf dychwelyd i weld “wynebau ffres yn cynrychioli myfyrwyr o bob rhan o’r Grŵp”.

“Cawsom gyfle i drafod diwygio, annibyniaeth Cymru a mynediad at bolisïau gofal iechyd,” meddai.

“Roedd yn wych cael cynrychiolwyr o’r Grŵp yno yn rhoi mewnbwn ar sut mae pethau’n effeithio ar ddysgwyr Addysg Bellach, a sut mae angen i ni gydweithio’n agosach i gyflawni ar gyfer holl fyfyrwyr y sector ôl-16.”

Yn ddiweddar, cafodd ei benodi’n un o ddau ymddiriedolwr ifanc newydd Urdd Gobaith Cymru, ynghyd ag Emily Pemberton o Gaerdydd.

Mae’r ddau wedi cael eu penodi am gyfnod o dair blynedd, er mwyn sicrhau bod gan bobol ifanc lais ym mhenderfyniadau’r Urdd.