Mae Gweinidog Isadeiledd Gogledd Iwerddon wedi galw am arwyddion ffyrdd amlieithog yn ninas Belfast.

Daw hyn wrth i John O’Dowd ddweud wrth lansio cynllun peilot ei fod e’n awyddus i wneud yr iaith Wyddeleg yn fwy gweladwy mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn y gymdeithas yn gyffredinol.

Ac mae wedi cael ei gyhoeddi er gwaetha’r sicrwydd diweddar na fyddai deddfwriaeth yn ymwneud â’r Wyddeleg yn newid y polisi ynghylch arwyddion ffyrdd yng Ngogledd Iwerddon.

Byddai’r arwyddion yn cael eu gosod ar brif ffyrdd yn hytrach na strydoedd preswyl yn y lle cyntaf, gan fod y rheiny dan reolaeth cynghorau lleol.

Byddai’r peilot yn cael ei gynnal yn y Gaeltacht, sef cadarnle’r Wyddeleg, gyda’r bwriadu o’i ymestyn yn ddiweddarach.

Yn ôl y Ddeddf Iaith Wyddeleg, mae gan yr iaith statws swyddogol.

Gwrthwynebiad

Yn 2018, roedd arwyddion Gwyddeleg ar brif ffyrdd yn amod yn y trafodaethau rhwng Sinn Fein a’r DUP tros adfer grym yng Ngogledd Iwerddon.

Ond cafodd ei wrthod gan y DUP, wrth i’r arweinydd Arlene Foster ddadlau y byddai’n “lleihau Gogledd Iwerddon o fewn y Deyrnas Unedig” pe bai arwyddion dwyieithog yn cael eu codi a phe bai gwersi Gwyddeleg yn cael eu gwneud yn orfodol mewn ysgolion.

Mae John O’Dowd yn tynnu ar yr hyn mae’n ei ddweud yn Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop er mwyn cyfiawnhau’r polisi o gyflwyno arwyddion amlieithog, gan ddweud bod y Ddeddf Iaith yn rhoi statws swyddogol i’r Wyddeleg.

Ond mae unoliaethwyr yn cyhuddo ymgyrchwyr o achosi “rhyfel diwylliannol”, gan alw ar weinidogion “ffôl” i atal y cynllun “mewn nifer o lefydd lle nad oes croeso iddo fe”.

Gwarchod yr iaith

Dywed John O’Dowd, sydd wedi cyfarfod â’r mudiad iaith Conradh na Gaeilge, fod arwyddion dwyieithog yn “fenter bositif” ar gyfer “cymuned Wyddeleg sy’n tyfu a ffynnu”.

Ychwanega fod gan adrannau’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus rôl wrth gefnogi a hybu’r defnydd o’r Wyddeleg.

Does dim sôn ar hyn o bryd pa ieithoedd eraill fydd yn cael eu cynnwys ar arwyddion amlieithog, gan mai Saesneg a Gwyddeleg yn unig sydd wedi cael eu crybwyll yn y trafodaethau.