Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw am gosbau llymch ar gyfer gollwng carthion yn nyfroedd y wlad.

Daw’r alwad ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y carthion mae Dŵr Cymru’n eu rhyddhau wedi cynyddu 40% ers 2022 (cyfanswm o 23,354 o oriau).

Mae’r blaid hefyd yn galw am ddileu bonws penaethiaid cwmnïau dŵr sy’n gollwng carthion, a hynny er i’r Ceidwadwyr bleidleisio dro ar ôl tro yn erbyn mesurau o’r fath.

‘Sgandal’

Yn ôl Jane Dodds, mae’n “sgandal” fod carthion yn cael eu gollwng yn afonydd a dyfroedd Cymru heb fod neb yn cael eu cosbi.

“Mae’n anodd credu bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Lafur Cymru’n gadael i gwmnïau dŵr gyflawni’r fandaliaeth amgylcheddol yma,” meddai.

“Fel plaid, rydym yn galw am gamau llymach i atal carthion rhag cael eu gollwng mewn dyfroedd lleol.

“Rydym hefyd wedi galw am ddileu bonws penaethiaid cwmnïau dŵr sydd wedi pwmpio budreddi i mewn i’n dyfroedd.”