Mae angen gwneud mwy i fynd i’r afael â thrais mewn ysgolion, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw eu sylwadau ar ôl i £150,000 gael ei dalu i athro yn dilyn ymosodiad arno gan ddisgybl yn ei ysgol.
Roedd yr athro’n gweithio mewn ysgol ar gyfer bechgyn â phroblemau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad.
Cafodd anafiadau i’w wyneb, ei geg a’i ben ar ôl cael ei daro a’i benio gan ddisgybl.
Ynghyd â’r anafiadau, roedd yr athro, sydd heb ei enwi, hefyd yn dioddef problemau seicolegol ar ôl yr ymosodiad.
Yn ôl Andrew RT Davies, mae “epidemig o drais yn ein hysgolion yng Nghymru”.
“Ni fydd plant byth yn cael yr addysg y maen nhw’n ei haeddu os nad ydyn nhw a’u hathrawon yn ddiogel yn eu dosbarthiadau,” meddai.
“Mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun pum pwynt i gael gwared ar drais yn ein hysgolion, gan gynnwys sefydlu llinell gymorth genedlaethol ar gyfer staff sy’n delio â thrais.”
Dyletswydd o ofal
Dywed yr undeb addysg NASUWT eu bod nhw wedi llwyddo i ennill bron i £14.3m mewn iawndal i’w haelodau yn 2023.
Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi wrth i’r undeb baratoi at eu cynhadledd flynyddol yn Harrogate, Swydd Efrog, dros y penwythnos.
Dywed Patrick Roach, ysgrifennydd cyffredinol NASUWT, fod lefel yr iawndal sydd wedi’i sicrhau ar gyfer athrawon “yn dditiad o system addysg sy’n methu yn ei dyletswydd o ddarparu gofal i weithwyr y proffesiwn”.
Mae’r undeb wedi talu iawndal i athrawon sydd wedi dioddef niwed corfforol a meddyliol, gwahaniaethu a chamdriniaeth yn y gwaith.
“Yn aml, ni all unrhyw swm o iawndal wneud iawn am effaith ddinistriol anafiadau corfforol a meddyliol yn y gweithle,” meddai.
“Mae gan athrawon yr hawl i gael eu trin ag urddas ac i fod yn ddiogel pan fyddant yn mynd i’r gwaith.
“Ni fydd NASUWT byth yn oedi cyn dilyn camau cyfreithiol lle mae cyflogwyr yn methu yn eu dyletswydd gofal i’w staff.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.