Mae Heddlu’r De wedi dod o hyd i ffatri ganabis ar y stryd yn Abertawe lle cafodd landlord ei lofruddio gan ei denant yn 2015.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Vivian yn ardal Sgeti fore ddoe (dydd Mercher, Mawrth 27), yn dilyn adroddiadau am fwrgleriaeth honedig yn oriau man y bore.

Pan atebodd yr heddlu yr alwad, daethon nhw o hyd i oddeutu 150 o blanhigion yn yr eiddo, ac fe fu tîm fforensig yn gweithio ar y safle.

Dywed yr heddlu fod dyn gafodd ei arestio yn y fan a’r lle bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

“Does dim cysylltiad ag unrhyw ddigwyddiadau yn y gorffennol,” meddai llefarydd wrth golwg360.

Ar Heol Vivian yn Sgeti y cafodd Alec Warburton ei lofruddio gan David Ellis, oedd wedi ffoi i Iwerddon cyn cael ei arestio’n ddiweddarach, a’i garcharu am 26 mlynedd.

Tîm fforensig yn gweithio ar stryd landlord gafodd ei lofruddio yn 2015

Mae’r tîm yn gweithio mewn eiddo yn ardal Sgeti yn Abertawe, a phlismones ar stepen y drws
Logo Golwg360

Carcharu dyn am 26 mlynedd am lofruddio’i landlord

David Ellis, 41, wedi ymosod ar Alec Warburton gyda morthwyl