Mae Emily Durrant-Munro, sydd wedi cael ei dewis gan aelodau Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd seneddol dros Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, yn dweud ei bod hi’n bryd rhoi’r gorau i chwarae gemau gwleidyddol.

Mae disgwyl y bydd yr etholiad yn cael ei gynnal yn ystod ail hanner 2024.

Rhwng 2017 a 2022, roedd Emily Durrant-Munro yn Gynghorydd Sir Powys ar gyfer ward Langors, a hi oedd Cynghorydd Sir cynta’r Blaid Werdd yng Nghymru.

Penderfynodd hi fod yn Gynghorydd Plaid Cymru yn dilyn llwyddiannau lleol wrth gyflwyno mesurau arafu cyflymder, lansio siop bentref gymunedol, a gwella perfformiad amgylcheddol y Cyngor.

Mae ganddi yrfa yn y maes amaeth a chyflenwi bwyd, ac mae hi wedi gweithio i sawl sefydliad amgylcheddol, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Roedd hi hefyd yn arwain prosiect datblygu gwledig, gan weithio gyda mwy na 250 i gyflwyno  prosiectau arloesol, cynaliadwy.

Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio gyda busnesau bwyd ac amaeth byd-eang i ddeall a rheoli effeithiau nwyon tŷ gwydr ar fioamrywiaeth.

Un peth yn erbyn y llall

“Mae’n bryd i ni roi’r gorau i’r nonsens hwn o amgylchedd yn erbyn bwyd, hinsawdd yn erbyn ffermwyr, Llafur yn erbyn Ceidwadwyr,” meddai Emily Durrant-Munro.

“Mae ein ffermwyr yn cael eu trin fel gwystlon mewn gêm wleidyddol, wedi’u chwythu o bob cyfeiriad.

“Mae’n rhaid iddo stopio.

“Ni allwn barhau i ddweud neu, mae’n rhaid i ni ddechrau dweud ac,” meddai.

“Rydym angen bwyd a hinsawdd sefydlog.

“Mae angen bwyd ac afonydd byw.

“Mae angen ffermwyr ac adfer natur.

“Nid y ffermwyr yw’r dihirod yma, na’r adar neu’r gloÿnnod byw chwaith.”

‘Aelod gwerthfawr’

Dywed Emily Durrant-Munro fod y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan “wedi amddifadu Cymru o filiynau o bunnau o gyllid ers Brexit”, gan gynnwys cyllid amaethyddol.

Ychwanega fod Llafur Cymru “wedi ymdrin â chyflwyno cynllun ffermio Cymru yn wael, gan golli ymddiriedaeth y gymuned ffermio”.

“Mae hwn yn argyfwng planedol a bydd yn golygu rhywfaint o newid, ond nid gwthio ffermwyr a phobol allan o ardaloedd gwledig yw’r ateb,” meddai.

Mae Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru yng Nghyngor Sir Powys, wedi croesawu Emily Durrant-Munro fel ymgeisydd ar gyfer yr etholaeth.

“Roedd hi’n aelod gwerthfawr o dîm Cyngor Sir Powys,” meddai.

“Bydd ei hamrywiaeth o brofiad a gwybodaeth yn enwedig gyda ffermio a materion gwledig ac amgylcheddol yn ei gwneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer yr etholaeth hon pan fo cymaint o heriau yn cael eu hwynebu gan y cymunedau hyn.”