Mewn colofn newydd, Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwyllianau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn ddiweddaraf, un o Ferthyr Tudful sy’n cael sylw…


Enw: Kat Von Kaige

Dyddiad geni: 28/07/1992

Man geni: Merthyr Tudful

Mae’r ystafell fawr dan ei sang gyda chefnogwyr llafar yn poblogi pob cornel o’r ‘cylch sgwâr’ reslo yng nghanol yr ystafell, llwyfan perfformio’r athletwraig ystwyth hon gaiff ei hadnabod wrth ei henw ‘Welsh Witch’.

Os gall unrhyw un wneud i dafliadau a daliadau dramatig reslo edrych yn syml, ‘Y Wrach Gymraeg’ yw honno, a hithau wedi perfformio’r grefft ar lwyfannau yng Nghymru, Lloegr, Gwlad Pwyl, Yr Almaen, Denmarc a Malta. Mae’n egluro mai un o’i chyflawniadau pennaf oedd cael ‘creu hanes gyda Lexa Valo (reslwraig broffesiynol ac un o sêr disgleiriaf y grefft yn yr Almaen) ym Malta am fod y menywod cyntaf i reslo mewn pencampwriaeth.

“Pan ro’ ni’n tyfu lan, roedd reslo menywod mor wahanol a doedd dim yr un lefel o barch fel oedd am reslo dynion… Ond nawr rydyn ni’n cael ein gweld yn llawer mwy cyfartal. Dwi’n caru dweud storïau trwy reslo ac yn helpu menywod eraill i ddatblygu eu crefft,” meddai, cyn egluro mai un o’i breuddwydion yw cael ‘reslo yn Japan’, gwlad sydd â hanes cyfoethog o reslo proffesiynol.

Ond nid reslwraig yn unig yw Kat Von Kaige. Mae hi’n fodel sy’n amlygu ffasiwn y sîn ‘Goth ôl-pync’ hefyd. Mae sawl portread ohoni mewn dillad du, lledr neu lês a chaiff ei gweld yn aml â cholur tywyll neu ddramatig. I’r rhai ohonoch sy’n hoffi cerddoriaeth – ymhlith bandiau amlwg y sîn ‘goth ol-pync’ roedd The Cure, Siouxsie, Joy Division a Sisters of Mercy. Parhaodd y sîn i esblygu trwy gydol y 1980au a’r 1990au, ac mae modd gweld dylanwad y sîn o hyd mewn cerddoriaeth amgen a ffasiwn arddull Goth cyfoes.

“Beth sy’ dim i hoffi am y sîn yma? Y sŵn, y dillad, y feib i gyd! Mae rhywbeth am y sîn sy’n jyst siarad â fy enaid. Mae Goth yn fy nghalon,” meddai.

Yn ogystal â reslo’n broffesiynol a gweithio fel model, mae Kat hefyd yn canu ac yn gweithio fel dylunydd ffasiwn ac yn rhedeg cwmni reslo ac Ysgol o’r enw Ysgol Merthyr Pro Wrestling.

‘Gwrach’

Nid ‘gimic’ ar gyfer reslo yn unig yw ei henw, Y Wrach Gymraeg. Mae Kat Von Kaige yn ymarfer dewiniaeth yn ddyddiol ac mae’r gallu ganddi i ddarllen cardiau Tarot.

“Mae hud yn rhedeg yn y teulu. Mae gan fy Mam “y rhodd” ond mae hi’n rhy ofnus i’w ddefnyddio. Hefyd, roedd fy hen daid yn glairweledydd (clairvoyant). Ymfudodd i Gymru o Pennsylvania yn hwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.”

Un math o hud mae’r wrach gyfoes yn ei ymarfer yw manifestation, meddai.

Mae defodau sy’n ymwneud â manifestation yn dod â dyheadau, bwriadau a nodau rhywun i realiti corfforol. Mae’r unigolyn yn gorfod defnyddio technegau fel delweddu, gweithredu defodau ac ymarfer myfyrdodau mewn hud i ddod â’r dyheadau hyn i ffrwyth.

‘Panrywiol’

Mae rhai pobol, yn ôl y reslwraig, yn cymryd yn ganiataol ei bod yn heterorywiol, am ei bod hi mewn perthynas gyda dyn. Ac er nad yw Kat von Kaige wedi trafod hyn yn gyhoeddus o’r blaen, mae’n egluro nad dyma’r achos.

“Rydw i’n banrywiol,” meddai.

“Dwi’n berson eithaf preifat, felly tan nawr dwi heb siarad amdano fe, felly ‘Croeso!’ am yr egliwsif!” meddai.

Mae unigolion panrywiol yn cael eu denu at bobol waeth beth fo’u rhywedd neu ryw biolegol – yn wryw, benyw, unigolyn anneuaidd, genderqueer neu unrhyw hunaniaeth rhyw arall. Mae panrywioldeb yn cael ei ystyried yn derm mwy cynhwysol na deurywiowldeb (bisexuality), sy’n cael ei ddiffinio yn fwy nodweddiadol fel atyniad at ddau ryw (gwryw neu fenyw, fel arfer).

Y seicotherapydd sy’n artist dawns annibynnol

Malan Wilkinson

Mewn colofn newydd, Malan Wilkinson sy’n cwrdd â Cai Tomos