Mae miloedd ar filoedd wedi prynu stwff Cymraeg cwmni Ani-bendod…

Mae siwmperi Cymraeg cwmni o Geredigion mor boblogaidd nes eu bod nhw wedi gwerthu allan mewn ychydig funudau cyn heddiw.

Dechrau drwy werthu cardiau a darnau celf gwreiddiol wedi’u ffeltio wnaeth cwmni Ani-bendod, ond mae’r busnes wedi tyfu’n aruthrol dros y bum mlynedd ddiwethaf.