Mae dyn o Dremadog sy’n frawd i Mici Plwm yn agosáu at gwblhau un o rasys rhedeg anodda’r byd 50 o weithiau, ac am gael ei dderbyn i’r Orsedd ym mis Awst…

Malcolm Jones o Dremadog yng Ngwynedd ydy’r unig berson sydd wedi cwblhau bob Ras yr Wyddfa ers i’r digwyddiad blynyddol ddechrau bron i hanner canrif yn ôl.