Mae’r dyn 26 oed o’r Wyddgrug wedi sefydlu gwefan a chylchgrawn dwyieithog Klust sy’n trafod cerddoriaeth o Gymru, ac wedi trefnu gig i fandiau Cymraeg yn Llundain. Ac yn ddiweddar bu yn cyflwyno rhaglen ar Radio Cymru…

Pam wnaethoch chi sefydlu Klust?

Wnes i sefydlu’r wefan yn ystod y cyfnod clo, yn gweithio’n agos gydag Elis Povey a Rich Chitty ar yr ochr dylunio, cyn lansio ddechrau’r flwyddyn ddiwethaf.