Pop Cymraeg y 1970au sydd wedi ysbrydoli ‘Clancy’, sengl newydd myfyriwr o Bontypridd sy’n perfformio dan yr enw Y Dail.

Yn un garw am jazz, cerddoriaeth glasurol, pop, a roc, mae dylanwadau eang yn bwydo mewn i brosiect cerddorol Huw Griffiths. Ers diwedd 2020, mae’r Dail wedi rhyddhau cyfres o senglau sydd yn llawn dychymyg sinematig a chwareus Huw.