Mae un fu yn cyflwyno eitemau ar raglen Garddio a Mwy ar S4C yn gwirioni ar ieithoedd yn ogystal ag ar dyfu blodau, cadw gwenyn ac anelu at fyw mor hunangynhaliol â phosib.

Gyda dros 25,000 o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Adam Jones, neu ‘Adam yn yr Ardd’ i wylwyr S4C, yn gwneud gyrfa lawn amser o arddio ers bron i ddwy flynedd.