Gyda miloedd yn gorymdeithio drwy strydoedd y brifddinas dros y penwythnos, roedd y Gymdeithas Bêl-droed am ddangos ei chefnogaeth i Pride Cymru, yr elusen sy’n ymgyrchu tros chwarae teg i’r gymuned LGBTQ+.

Felly roedd fflagiau corneli’r cae yn y gêm rhwng Cymru ag Armenia ar y nos Wener yn Stadiwm Dinas Caerdydd wedi eu harddu gyda’r enfys. Mae’r gwahanol liwiau yn ffordd o ddathlu amrywiaeth.