Hyd yn hyn, mae’r Ymchwiliad Covid wedi datgelu pethau yr oedden ni’n eu gwybod yn barod: nad oedd yna baratoi digonol at bandemig a bod hynny o baratoi a fu wedi canolbwyntio bron yn llwyr ar ffliw.

Mae’n amlwg hefyd y bydd yna ddadlau ynghylch gwario ar y Gwasanaeth Iechyd ac ystadegau’n cael eu taflu yn ôl ac ymlaen. A dim ond dechrau yr yden ni.