Gyda’r perfformiadau sâl ar y cae pêl-droed a’r tîm rygbi yn colli chwaraewyr rif y gwlith ar drothwy Cwpan y Byd, cymylau duon sydd uwchben y maes chwaraeon.

A does dim chwarter digon o sylw wedi bod i gamp dau Gymro glew ar yr oci.

Draw yn Frankfurt yn yr Almaen nos Sul daeth deuawd deinamig Jonny ‘Y Fferet’ Clayton a Gerwyn ‘Gezzi’ Price i’r brig a chipio Cwpan Dartiau’r Byd.

Dyma’r ail dro iddyn nhw gyflawni’r gamp ar ôl ennill yn 2020 hefyd.