Fel rwy’n siŵr rydych chi wedi gweld – mae penderfyniad Sage Todz i beidio â pherfformio ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yn y gig i ddathlu hip-hop Cymraeg wedi esgor ar drafodaeth fawr tros y bythefnos ddiwethaf ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd hyn o ganlyniad i’r Eisteddfod yn mynnu bod angen iddo newid ei ganeuon i fod yn gwbwl Gymraeg yn lle ddefnyddio rhai geiriau Saesneg. Roeddwn i ag Eadyth hefyd i fod i berfformio, ac ar ôl gweld yr holl hiliaeth ar-lein gan bobl tuag at Sage a’i benderfyni