Mae ymchwilwyr yn Aberystwyth yn chwilio am bobol i rannu eu profiadau er mwyn gweld sut i oresgyn unigrwydd mewn ardaloedd gwledig.

Dangosa ymchwil bod un ymhob chwech o bobol yng Nghymru’n adrodd am brofiadau o deimlo’n unig.

Fel rhan o’r ymchwil, mae academyddion Prifysgol Aberystwyth wedi holi sefydliadau elusennol, ac wedi adnabod ffactorau sy’n gallu ychwanegu at unigrwydd mewn cymunedau.

Gallai’r gymuned amaethyddol fod yn un sy’n fwy tebygol i gael ei heffeithio gan unigrwydd, ac mae’r tîm yn awyddus i glywed gan bobol sy’n teimlo fel eu bod nhw’n perthyn i gymuned honno.

Y nod ydy llunio argymhellion i wella’r cymorth sydd ar gael.

Mae’r rhai sy’n perthyn i grwpiau ethnig lleiafrifol, ffoaduriaid, cartrefi incwm isel, yn byw ar eu pen eu hunain neu ag anableddau yn fwy tueddol o ddioddef o unigrwydd hefyd.

Dywedodd prif ymchwilydd y prosiect, Stephanie Jones, eu bod nhw’n awyddus i glywed gan bobol am eu profiad bywyd o unigrwydd.

“Gyda chymorth pobol, rydym yn gobeithio bod yr ymchwil hwn yn gyfle i lunio argymhellion a all fynd i’r afael ag unigrwydd mewn cymunedau gwledig.

“Mae hwn yn gyfle da i leisiau pobl gael eu clywed.”

‘Maint y broblem yn fwy’

Ychwanegodd Gareth Davies, Prif Swyddog Gweithredol elusen cymorth ffermio Tir Dewi, bod ffermio bob amser wedi cynnwys elfen o unigedd a bod hyn wedi dod â’i broblemau i deuluoedd fferm.

“Heddiw, fodd bynnag, mae maint y broblem honno yn fwy nag erioed,” meddai.

“Mae pwysau gwaith wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed.

“Yn ychwanegol at hyn mae llawer iawn o newid polisi sy’n wynebu ffermio a’r ansicrwydd mae hynny wedi’i achosi.

“Nid yn unig ydy ffermwyr yn gorfod goresgyn yr holl heriau hyn, ond yn aml maen nhw’n gorfod gwneud hynny ar eu pen eu hunain.

“Mae rhai ffermwyr yn llai tebygol o geisio am gymorth, gan gynnwys gofal iechyd.

“Mae’n rhaid dod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau bod ffyrdd clir a hawdd er mwyn iddyn nhw allu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”

Gellir cysylltu â’r prosiect drwy e-bostio stj34@aber.ac.uk