Mae Plaid Cymru’n galw ar Lafur i flaenoriaethu’r hinsawdd dros dargedau ariannol Torïaidd.
Daw hyn wrth i Ben Lake, llefarydd Trysorlys y blaid, annog Llafur i wireddu’r addewid i wario £28bn y flwyddyn ar fuddsoddiad gwyrdd.
Daeth cadarnhad ar Fehefin 9 gan Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid, na fyddai’r addewid yn cael ei gwireddu ym mlwyddyn gyntaf Llywodraeth Lafur mewn grym.
Yn hytrach, bydden nhw’n cynyddu’r gwariant ar yr hinsawdd drwy gydol eu tymor cyntaf wrth y llyw, gyda’r nod o wario’r £28bn erbyn 2028.
Mae Ben Lake wedi adleisio rhybudd António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, y bydd ymateb “truenus” gwledydd i’r argyfwng hinsawdd yn arwain at ganlyniadau “catastroffig”.
Mae Aelod Seneddol Ceredigion wedi wfftio awgrym Llafur fod gwario ar yr hinsawdd fesul dipyn yn “ariannol gyfrifol”, gan ddweud nad oes modd “tanbrisio cost oedi ein trawsnewidiad gwyrdd” a bod oedi’n “beryglus o anghyfrifol”.
Mae’n galw ar Lafur i ymrwymo i system dreth sy’n adlewyrchu dosraniad cyfoeth yn y Deyrnas Unedig – ar hyn o bryd, mae gan yr 1% o aelwydydd cyfoethocaf fwy o arian nag 80% o’r boblogaeth.
Dyfodol y blaned
“Mae diffoddwyr tân wedi bod yn brwydro chwe thân gwyllt yn ne Cymru dros y dyddiau diwethaf, ac wedi’u dychryn gan lunio o fwg gwenwynig yn amgylchynu Efrog Newydd,” meddai Ben Lake.
“Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig António Guterres gri ar i wledydd roi’r gorau i symud ar garlam tuag at drychineb, a’u llygaid led y pen ar agor.
“Rydyn ni ar lwybr tuag at dymheredd cyfartalog o 2.8 gradd selsiws yn uwch na’r cyfnod cyn-ddiwydiannol erbyn diwedd y ganrif, bron i ddwywaith nod y Cenhedloedd Unedig o gynnydd o 1.5 gradd.
“Byddai hynny’n gatastroffig.
“Fydd yr argyfwng hinsawdd ddim yn aros i’r Blaid Lafur.
“Allwn ni ddim disgwyl i genedlaethau’r dyfodol ganmol gwleidyddion heddiw am gadw’n gadarn at reolau ariannol y Torïaid eu hunain os na fydd modd byw ar ein planed.
“Os ydyn ni’n ystyried cost gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd parhau ar y llwybr presennol; mae’n glir fod oedi ein trawsnewidiad gwyrdd o ganlyniad i strategaethau gwleidyddol tymor byr yn beryglus o anghyfrifol.
“Yn wir, os yw Llafur yn poeni am fod yn ariannol gyfrifol, dylai ystyried ffyrdd o wneud ein system drethi’n decach, a mynd i’r afael ag anghyfartaledd cyfoeth uchel ac incwm y Deyrnas Unedig.
“Mae Plaid Cymru’n annog y Blaid Lafur i sefyll yn gadarn ar dargedau gwariant yr hinsawdd ac osgoi lleihau eu hymrwymiad i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”