Mae Liz Saville wedi cyhoeddi ei bwriad i sefyll ar gyfer sedd yr etholaeth seneddol newydd sy’n cyfuno Dwyfor Meirionnydd ac Arfon.
Dywed arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd y bu’n “anrhydedd” cynrychioli Dwyfor Meirionnydd ers 2015.
Ond gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel o fewn y deunaw mis nesaf, mae’r ffiniau etholaethol yng Nghymru wedi cael eu haddasu fel bod seddi Dwyfor Meirionydd ac Arfon, sedd bresennol Hywel Williams, yn cael eu huno.
Mae Hywel Williams eisoes wedi datgan ei fwriad i ymddeol adeg yr etholiad cyffredinol nesaf, pryd bynnag y bydd hwnnw.
“Mae wedi bod yn anrhydedd i godi yn San Steffan yn enw pobol Dwyfor Meirionnydd ers 2015 a hefyd ennill y bleidlais uchaf i’r Blaid y ganrif hon yn Etholiad Cyffredinol 2019,” meddai Liz Saville Roberts.
“Dwi’n gofyn am i chi aelodau Plaid Cymru yn yr hen etholaeth roi’ch ffydd yno i unwaith eto.
“Dwi’n gofyn hefyd i aelodau Arfon ystyried fy newis wrth i’r etholaeth estyn ei ffiniau tua’r gogledd.
“Fel arweinydd seneddol dwi wedi ymdrechu bob tro i flaenoriaethu undod o bwrpas ymhlith tîm Plaid Cymru.
“Gofynnaf i chi ganiatáu i mi barhau i fod yn rhan o’n tîm gwych ni fel eich ymgeisydd Seneddol.
“Yn ddiffuant. Liz.”