Mae’r bleidlais wedi agor ar gyfer cystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn y Senedd heddiw (dydd Llun, Mehefin 19), er mwyn cydnabod a dathlu cyfraniad ymgyrchwyr yng Nghymru.

Ar ôl i bum deiseb gael eu rhoi ar y rhestr fer gan y Pwyllgor Deisebau, mae’r bleidlais ar agor ac mae cyfle i’r cyhoedd ddewis y ddeiseb sydd wedi cael yr effaith fwyaf ar bobol yng Nghymru.

Rhwng mis Ebrill y llynedd a mis Mawrth eleni, cafodd y pwyllgor 187 o ddeisebau gyda bron i 130,000 o bobol yng Nghymru yn cynnig eu llofnod i gefnogi achos.

O’r 187 o ddeisebau, enwebodd aelodau’r pwyllgor bum deiseb ar gyfer rhestr fer y gystadleuaeth Deiseb y Flwyddyn oedd yn nodi’r amrywiaeth o bynciau mae pobol Cymru wedi bod yn ymgyrchu drostyn nhw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Ar ôl i’r bleidlais ddod i ben ar Fehefin 30, bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau ar Orffennaf 3.

Yna, bydd y sawl sy’n creu’r ddeiseb sy’n ysbrydoli’r cyhoedd fwyaf yn cael ei wahodd i’r Senedd i gyfarfod David Rees, y Dirprwy Lywydd, a Jack Sargeant, cadeirydd y Pwyllgor Deisebau.

Y rhestr fer

Roedd y deisebau sydd wedi’u henwebu yn galw am:

Gyfraith Mark Allen – gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored 

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bum argymhelliad, gan gynnwys penodi Gweinidog penodol i arwain ar ddiogelwch dŵr ac atal achosion o foddi, a datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth ynghylch diogelwch dŵr.

Mwy o gefnogaeth i gleifion canser metastatig y fron

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i edrych yn fanwl ar ofal cychwynnol ac eilaidd o ganser y fron, a chyflwyno system gwybodaeth canser newydd i ganiatáu defnydd gwell o ddata canser metastatig fel mater o drefn. Mae’r deisebydd yn parhau i alw am nyrsys arbenigol i ddarparu cymorth mae mawr ei angen.

Gwahardd rasio milgwn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ofyn i’r cyhoedd a ddylai rasio milgwn gael ei wahardd.

Gwella gofal iechyd endometriosis 

Mae’r pwyllgor yn parhau i dynnu sylw at yr angen am ragor o ymchwil yn y maes, ac at bwysigrwydd ymgysylltu â phobol sydd â phrofiad o fyw â’r cyflwr wrth ddatblygu’r Cynllun Iechyd Menywod.

Cymorth i rieni sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion y Pwyllgor mewn egwyddor a bydd yn ymchwilio i sut y gallan nhw gasglu’r data.

Dathlu angerdd ac egni ymgyrchwyr

“Yn dilyn lansiad llwyddiannus y llynedd, mae’n bleser cyhoeddi enwebiadau Deiseb y Flwyddyn eleni, a dathlu’r angerdd a’r egni a ddangoswyd gan ymgyrchwyr ledled y wlad,” meddai Jack Sargeant.

“Mae’r Pwyllgor Deisebau yn perthyn i bawb yng Nghymru a gallai unrhyw un sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth weld eu deiseb yn cael ei hystyried neu ei thrafod yn y Senedd.

“Mae’r pum deiseb hyn wedi cael effaith sylweddol; o godi ymwybyddiaeth, i newidiadau polisi Llywodraeth Cymru.

“Mae pob un wedi gwneud gwahaniaeth i bobol Cymru.

“Mae cyrraedd y cam hwn yn gwneud i Lywodraeth Cymru gymryd sylw o ymgyrchoedd pobol, ac mae’n aml yn golygu eu bod yn derbyn y gofynion sy’n cael eu gwneud, fel rydym wedi gweld yn y rhai a enwebwyd eleni.

“Dyma gyfle gwych i ddathlu gwaith ac angerdd pawb sydd wedi cyflwyno, arwyddo, rhannu a chefnogi deiseb dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Diolch i bawb sydd wedi cyflwyno deiseb, a phob lwc i’r pum enwebai.”