Mae gwniadwraig wedi cael gweld ffrog briodas Laura Ashley y bu hi’n gweithio am y tro cyntaf ers trideg mlynedd.
Roedd Sharon Wells, sy’n 56 oed, yn aelod o dîm o saith gwniadwraig wnaeth y ffrog briodas yn ffatri a stiwdio briodasol Laura Ashley ym Machynlleth yn 1992.
Mae tag o 1992 â llofnod Sharon Wells arno dal ar y ffrog, sy’n rhan o arddangosfa arbennig ‘For the Love of Laura Ashley’ yn MOMA ym Machynlleth.
Cafodd yr arddangosfa ei threfnu gan Ann Evans, sylfaenydd Heritage Hub 4 Mid Wales, er mwyn gwarchod etifeddiaeth Laura Ashley.
‘Ffrog fel newydd’
Buodd Ann Evans yn gweithio i Laura Ashley am ugain mlynedd, gan ddechrau yn 1975, ac roedd hi eisiau dod o hyd i rywbeth arbennig i’w ddangos yn yr arddangosfa.
Daeth o hyd i ffrog briodas o 1992 mewn siop Oxfam yn Witney yn Swydd Rhydychen, ac fe’i prynodd am £200.
“Mae’r ffrog fel newydd, ac mae’r tag wedi cael ei lofnodi gan Sharon, cyn iddi briodi, dal arni,” meddai Ann Evans.
“Mae hi’n enghraifft berffaith o ansawdd gwaith gwniadwragedd Laura Ashley yn ffatri stiwdio briodasol y cwmni ym Machynlleth.”
‘Braint’
Dywedodd Sharon Wells, fu’n gweithio gyda Laura Ashley am tua saith mlynedd, ei bod hi’n hyfryd cael ei haduno â’r ffrog.
“Roeddwn i’n un o saith gwniadwraig gafodd eu dewis i weithio ar ffrogiau a siwtiau i briodferched, priodfeibion a’r gweision bach o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Sharon Wells, sy’n byw yng Nghorris ac yn gweithio yn yr ysgol yno fel cymhorthydd dosbarth.
“Roedden ni’n rhoi ein llofnodion ar dagiau’r darnau gorffenedig, a lwc ydy hi mai fy enw i oedd ar y ffrog briodas hon.
“Roedd yr holl beth yn waith tîm.
“Unwaith fe wnes i dderbyn llythyr diolch gan ddynes o America oedd wedi gwisgo ffrog briodas gyda fy enw i arni.
“Roeddwn i yn mwynhau bod yn rhan o’r tîm priodasol oherwydd ei bod hi wastad yn teimlo fel braint cael gwneud ffrog briodas ar gyfer diwrnod arbennig rhywun.”
Gobaith Ann Evans yw y bydd y ffrog yn cyfrannu at archif ar gyfer Hwb Treftadaeth Laura Ashley barhaol, rhywbeth mae hi’n gobeithio ei sefydlu yn 2025 – pan fyddai Laura Ashley wedi bod yn 100 oed.