Mewn colofn newydd sbon, Malan Wilkinson sy’n bwrw golwg ar gymeriadau gwahanol/arloesol ac obsesiynol, gan gynnig mewnwelediad i fydau sydd heb eu harchwilio a rhoi llais i is-ddiwyllianau Cymru. Ei gobaith yw bwrw sbot-olau ar achosion canran o gymdeithas sy’n gyfyngedig o ran cyfleoedd i gael eu darganfod. Yn ei cholofn gyntaf, un o Ddolgellau sy’n cael sylw…


Enw: Cai Tomos

Dyddiad geni: 5/04/1979

Man geni: Dolgellau

Mae’n symud mor huawdl ac mae iaith ei grefft yn fyd-eang. Mae’n deall bod symud yn medru ein cyffwrdd a’n cynnal ar ein gwannaf. Mae’n anodd credu mai’r meistr addfwyn hwn yw’r un bachgen ifanc oedd yn breuddwydio am fflio o ‘dop y grisiau’. Yr un bachgen sy’n chwilio am lonyddwch drwy ddawns. Yr un bachgen sy’n dawnsio gydag unigolion sy’n wynebu diwedd eu hoes. Yr un bachgen fydd, un diwrnod, yn glown.

Un o atgofion cynharaf Cai yw cael camera ar ei ben-blwydd.

“Ges i gamera ar fy mhen-blwydd ac roedd y camera’n un efo teimar deg eiliad arno. Ro’n i’n mynd â fo i waelod y staer, yn rhoi fy matras gwely yno ac yn rhedeg i dop y staer a neidio. Ro’n i’n trio cael llun o’n hun yn fflio, dw i’n meddwl. Mae gen i dal y ddelwedd yma a dw i’n ei defnyddio yn fy ngwaith creadigol, achos mae o’n symbolig. Dyna oedd yn fy nghyffroi i, y chwilio yna am ryddid, y gallu i fod yn fwy na beth oeddwn i.”

Y flwyddyn ddiwethaf, fe berfformiodd Cai mewn dawns yn Llundain, ‘How shall we begin Again’ – gwaith byrfyfyr o ugain munud o solo, heb syniad beth oedd am ddigwydd efo deg darn gwahanol o gerddoriaeth. Dyma un o’i uchafbwyntiau diweddaraf yn nhermau perfformio byw, meddai.

“Dw i meddwl bod unrhyw greadigrwydd sydd werth o rili yn golygu rhyw fath o risg personol, efallai risg proffesiynol ac ysbrydol. Rywsut, mae’n rhaid troedio allan yna a chwrdd â thi dy hun, dw i’n meddwl. Dyna oedd o i mi, y bywiogrwydd wnes i deimlo yn y foment yna – o gael dim byd i afael arno ac wedyn gorfod trystio fy nghreadigrwydd fel rhyw fath o ffydd.”

‘Llonyddwch a symylder’

Petai’n cael un pŵer goruwchnaturiol, pŵer llonyddwch fyddai hwnnw, meddai.

“I fod yn llonydd, llonydd, llonydd a bod y llonyddwch yna rywsut yn riplo allan a bod yna bobol eraill yn mynd yn llonydd hefyd. Dyna sy’n fy helpu i fod yn y byd ydi trio ffeindio hwnna, er ’mod i’n ddawnsiwr ac yn symud drwy’r amser. Rhyfedd. Ond mae llonyddwch yn bwysig.”

Pe bai’r dawnsiwr yn cael rhannu pryd o fwyd efo unrhyw un, yn ffigwr byw neu farw – gyda’r mynach Thomas Merton o Kentucky, Unol Daleithiau fyddai hynny, meddai. Roedd Merton yn llenor, diwinydd, cyfrinydd, bardd, gweithredwr cymdeithasol ac ysgolhaig.

“Ddim bod gen i ffydd, ond dw i’n mwynhau darllen ei ddyddiaduron o am sut oedd o’n byw – mewn ffordd mor syml. Mi faswn i wrth fy modd yn eistedd efo fo a siarad am y byd a bywyd.”

Does dim llawer o bethau’n dychryn Cai, ond mae’n parhau i deimlo ofn weithiau pan fydd yn perfformio, yn dysgu neu’n traddodi darlith.

“Mae gen i andros o ofn weithiau wrth berfformio, dysgu neu gynnal darlith, ond dw i’n gwybod fod hynny achos bod o’n bwysig i mi. Ond dw i’n gallu bod wrth fy modd yn y twyllwch fa’ma ar ben y bryn, wrth fy modd efo mynd ar goll. Fedra i ddim dweud bod pethau’n fy nychryn fel arall. Dw i ddim yn gwylio horror films, dw i ddim yn gweld pwynt cael fy nychryn fel yna, dw i ddim yn joio hynny.”

‘Diwedd oes’

“Mae’n fraint enfawr gallu dawnsio efo pobl sydd yn sâl neu ar ddiwedd eu bywyd. Mae’n anodd rhoi i mewn i eiriau’r pethau sy’n digwydd weithiau drwy gysylltu’r corff gyda’r barddonol a chyda’r ysbrydol yn yr ysbyty.

“Y sgyrsiau dw i wedi’u cael, y dawnsfeydd dw i wedi’u cael, y pethau amazing sydd yn digwydd achos mae ysbytai yn llefydd liminal i lot o bobol. Mae pobol yn mynd o un lle i’r llall yno; rhai yn disgwyl am driniaeth, eraill am fynd adra, a rhai sy’n marw.”

Er gwaethaf hyn, mae’n sôn bod pobol, o’i brofiad ef, yn ‘agored iawn i siarad ac i fod mewn cyswllt’ wrth wynebu sefyllfa debyg yn yr ysbyty.

“Pan mae rhywun yn sâl ac mewn lle ble tydyn nhw ddim yn medru gweld eu bywydau, mae creadigrwydd yn cynnig ffordd wahanol i ni gysylltu efo ni’n hunain – ac mewn un ffordd mae’n rhoi respite i rywun hefyd.

“Dwi’n gwybod pan dw i’n eistedd efo rhywun ac yn rhoi cerddoriaeth ymlaen a gafael llaw, mae yna rywbeth yn digwydd. Dw i ddim yn gwybod beth ydi o yn union, ond mae’n bwerus ofnadwy pan mae’r cysylltiad yna’n digwydd.”

Pan oedd Cai yn fachgen pump oed, mae’n cofio mynd i sioe fabanod am ddau glown a “disgyn mewn cariad efo delwedd y clown, theatr a pherfformio byw”. A dyna un peth mae’n bwriadu ei gyflawni eleni, meddai, sef gwireddu’r freuddwyd honno drwy fynd i Ysgol Glown i ddysgu sut mae bod yn glown – iddo fedru defnyddio’r grefft mewn ysbytai neu gartrefi henoed yn y dyfodol.

Er gwaethaf angerdd a chariad Cai at ddawns, y Celfyddydau a’i awch i gymhwyso fel clown, un o’r cynghorion gorau gafodd gan gyd-artist oedd bod popeth yn transient neu’n ddarfodedig, ac i “beidio dal yn unrhyw beth yn rhy dynn”, boed hynny yn yrfa neu’n awch creadigol.