Bydd tîm criced Morgannwg yn awyddus i adeiladu ar eu buddugoliaeth dros Swydd Gaerloyw nos Wener (Mai 26), wrth iddyn nhw deithio i Taunton i herio Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Sul, Mai 28).

Y tymor diwethaf, cafodd y sir Gymreig eu cosbi gan Will Smeed, wrth iddo fe daro 94 heb fod allan oddi ar 41 o belenni, gan gynnwys saith pedwar ac wyth chwech, gyda’i dîm yn cyrraedd eu nod o 174 o fewn pymtheg pelawd gan ennill o naw wiced.

Dydy Morgannwg ddim wedi ennill gêm ugain pelawd yn Taunton ers 2017, a chawson nhw grasfa o wyth wiced yn 2020 hefyd.

Un rhediad oedd ynddi yn 2017, serch hynny, wrth i Nick Selman daro hanner canred cyn i Michael Hogan a Marchant de Lange gyfuno i roi’r pwysau ar y Saeson a chyrraedd rownd yr wyth olaf ar eu ffordd i Ddiwrnod y Ffeinals.

Tri rhediad oedd ynddi yn 2015, wrth i Forgannwg ennill diolch i 96 gan Colin Ingram oddi ar 62 o belenni, cyn i Wayne Parnell fowlio’n gampus ym mhelawd ola’r ornest i gipio’r fuddugoliaeth.

Troellwr coes newydd

Yn sgil absenoldeb Michael Neser oherwydd ymrwymiadau rhyngwladol gydag Awstralia, mae Morgannwg wedi denu ei gydwladwr Peter Hatzoglu am gyfnod byr o bedair gêm.

Yn enedigol o Awstralia, mae Hatzoglu o dras Roegaidd a Gogledd Macedonia ac yn 24 oed.

Mae ganddo fe brofiad o gemau ugain pelawd ar draws y byd, ar ôl serennu yn y Big Bash League yn ei famwlad gyda’r Perth Scorchers, y Can Pelen gyda’r Oval Invincibles, a’r Pakistan Super League gyda Peshawar Zalmi.

Ar ôl llofnodi cytundeb gyda Morgannwg, datgelodd Hatzoglu ei fod e wedi bod yn chwarae yng nghynghrair Essex pan gafodd yr alwad i deithio i Gymru.

Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, bydd e’n cynnig mwy o ddyfnder o ran y bowlio.

Peter Hatzoglu

Teyrngedau

Yn y cyfamser, mae teyrngedau wedi’u rhoi i Lawrence Williams, aelod o garfan Morgannwg enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969, sydd wedi marw yn dilyn salwch byr.

Yn enedigol o bentref Tonna ger Castell-nedd, cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd.

Yn fowliwr sêm llaw dde, dechreuodd ei yrfa’n chwarae i Ynysygerwn cyn ymuno ag ail dîm Morgannwg yn 1965.

Daeth yn aelod llawn o’r garfan yn 1969 yn dilyn anaf i Jeff Jones a lled-ymddeoliad Ossie Wheatley, ac fe gipiodd e bum wiced allweddol yn erbyn Swydd Gaerloyw, y tîm oedd wedi bod ar frig y gynghrair am ran helaeth o’r tymor hwnnw.

Cipiodd e gyfanswm o 56 o wicedi dosbarth cyntaf yn 1969, gan ragori ar hynny gyda 61 y tymor canlynol, gan gynnwys saith wiced am 60, ffigurau gorau ei yrfa, yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Blackpool.

Enilodd ei gap sirol yn 1971 yn sgil ei berfformiadau yn y gynghrair undydd wrth gipio 33 wiced, yn ogystal â lle yng ngharfan Lloegr dan 25.

Cipiodd e 55 o wicedi yn 1972 a 1973, gan gynnwys unarddeg wiced yn erbyn Caint yn San Helen, ei ffigurau gorau erioed gyda’r bêl goch, ac eto yn 1974.

Ond daeth cyfres o anafiadau iddo yn 1975, ac fe ddaeth ei yrfa i ben yn 1977 ar ôl methu â gwella, yn ogystal â dyfodiad nifer o fowlwyr cyflym eraill i’r sir.

Erbyn hynny, roedd e wedi cipio 363 o wicedi dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 27, a 194 o wicedi undydd Rhestr A.

Ar ôl dychwelyd i’r gynghrair leol, fe barhaodd i fod yn enw blaenllaw gan gynrychioli tîm Cymdeithas Griced De Cymru, a thîm Cymru hefyd.

Ar ôl ymddeol o’i waith gyda’r Cyngor, daeth yn dirmon yng Nghlwb Criced Ynysygerwn.

Yn ôl Edward Bevan, gohebydd criced BBC Cymru, roedd yn “un o’r bowlwyr gorau, os nad y gorau, i ddod o glwb Ynysygerwn” ac yn “was ffyddlon i’r gêm”.

Cafodd ei alw’n “un o’r hoelion wyth” gan Hugh Morris, Prif Weithredwr Morgannwg, a dywedodd Clwb Criced Pontarddulais ei fod e wedi chwarae iddyn nhw am wyth tymor fel chwaraewr proffesiynol a’i fod e’n gapten am gyfnod.

Cafodd munud o dawelwch ei chynnal ar draws y gynghrair dros y penwythnos.

 

Carfan Gwlad yr Haf: L Gregory (capten), T Abell, T Banton, Shoaib Bashir, J Davey, L Goldsworthy, B Green, M Henry, T Kohler-Cadmore, T Lammonby, C Overton, P Siddle, W Smeed, R van der Merwe

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, S Northeast, R Smith, H Podmore, P Sisodiya, P Hatzoglou, J McIlroy, C Ingram, C Cooke, T van der Gugten, D Douthwaite, E Byrom