Tarodd Tom Banton 54 wrth i Wlad yr Haf guro Morgannwg o bedair wiced yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yn Taunton.
Ar ôl cael eu gwahodd i fatio, dechreuodd Morgannwg yn gryf wrth i Eddie Byrom glatsio cyfres o ergydion i’r ffin ar ôl i Sam Northeast gael ei ollwng yn y maes, ond daeth y wiced fawr i’r tîm cartref pan gafodd Northest ei ddal yn sgwâr gan Tom Lammonby oddi ar fowlio Craig Overton i adael y sir Gymreig yn 21 am un yn y drydedd pelawd.
Ond roedd Byrom ‘yma o hyd’, chwedl cân Dafydd Iwan groesawodd y capten Kiran Carlson i’r llain, a pharhau wnaeth yr ergydion i’r ffin gan y ddau fatiwr, wrth i Forgannwg orffen y cyfnod clatsio ar 57 am un, gyda Byrom heb fod allan ar 33.
Roedd Byrom allan yn y pen draw am 42, wrth i’r troellwr llaw chwith Roelof van der Merwe daro’i goes o flaen y wiced yn y nawfed pelawd, a Morgannwg yn 71 am ddwy.
Aeth hynny’n 79 am dair pan gafodd Carlson ei ddal gan Tom Abell oddi ar fowlio Lewis Gregory am 31.
A hwythau’n 94 am bedair, roedd y sir Gymreig wedi dechrau colli’u ffordd erbyn i Colin Ingram gael ei ddal gan Abell ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Gregory am 13.
Pan ddychwelodd van der Merwe, doedd hi ddim yn hir cyn iddo waredu Ben Kellaway am un, wedi’i ddal ar ochr y goes gan Overton i adael Morgannwg yn 99 am bump yn y drydedd pelawd ar ddeg.
Roedd Morgannwg yn 123 am chwech pan gafodd Chris Cooke ei ddal ar y ffin gan Craig Overton wrth yrru Matt Henry ar ochr y goes, ac roedd unrhyw obaith oedd gan Forgannwg o adeiladu cyfanswm sylweddol wedi dechrau pylu.
Roedd gwaeth i ddod pan gafodd Dan Douthwaite ei ddal wrth yrru’r bêl i lawr corn gwddf Matt Henry oddi ar fowlio van der Merwe i adael ei dîm yn 129 am saith, ac fe orffennodd y bowliwr ei bedair pelawd gyda thair wiced am 24.
Collodd Morgannwg eu hwythfed wiced ar 135 pan yrrodd Billy Root at Abell oddi ar fowlio’r Awstraliad Peter Siddle am 18, gan ddod â’i gydwladwr Peter Hatzoglou i’r llain i ymuno â’r Albanwr Ruaidhri Smith, sydd wedi ailymuno â’r sir ar gytundeb byr ar ôl cael ei ryddhau ddiwedd y tymor diwethaf.
Tri rhediad yn unig sgoriodd Smith cyn taro’r bêl yn uchel i’r awyr gan roi daliad syml i Gregory oddi ar fowlio Ben Green, a’i dîm wedi llithro ymhellach i 139 am naw yn y belawd olaf ond un.
Daeth y batiad i ben ddwy belen yn gynnar, pan gafodd Peter Hatzoglou, sydd ar gytundeb byr, ei ddal gan Overton oddi ar fowlio Siddle am 15, gyda’r maeswr yn cipio’i drydydd daliad a Morgannwg i gyd allan am 153 ddwy belen yn brin o’r ugain pelawd.
Ceisio amddiffyn yn ofer
Wrth i Forgannwg benderfynu arafu’r cyflymdra wrth agor y bowlio, cafodd y troellwr coes Hatzoglou ei gosbi gan Tom Banton fel bod y tîm cartref eisoes yn 45 heb golli wiced o fewn tair pelawd.
Roedden nhw’n 69 am un pan gafodd Will Smeed ei ddal wrth yrru ar yr ochr agored at Colin Ingram oddi ar fowlio Dan Douthwaite, ac yn 72 am un ar ddiwedd y cyfnod clatsio, ar y blaen o 15 rhediad ar yr adeg honno yn y batiad o gymharu â Morgannwg.
Doedd y seithfed pelawd, heb gyfyngiadau maesu, fawr gwell i Forgannwg wrth i Tom Kohler-Cadmore glatsio cyfres o ergydion i’r ffin, gan gynnwys dwy chwech enfawr, oddi ar fowlio Ruaidhri Smith cyn taro un ergyd yn ormod yn uchel i’r awyr a chael ei ddal gan Colin Ingram, a’i dîm yn 91 am ddwy yn yr wythfed pelawd.
Cyrhaeddodd Banton ei hanner canred oddi ar 26 o belenni, gan gynnwys wyth pedwar ac un chwech, cyn cael ei ddal ar ymyl y cylch ar yr ochr agored gan Jamie McIlroy oddi ar fowlio Douthwaite am 54, a’i dîm yn 116 am dair.
Roedden nhw’n 116 am bedair wedyn hefyd, wrth i Tom Lammonby gael ei ddal gan Ben Kellaway cyn diwedd yr un belawd heb sgorio.
Daeth pumed wiced Morgannwg pan gafodd Tom Abell ei fowlio gan Ruaidhri Smith yn y bedwaredd pelawd ar ddeg ond er bod dau fatiwr newydd wrth y llain, dim ond 13 rhediad oedd eu hangen ar Wlad yr Haf erbyn hynny.
Cafodd Lewis Gregory ei ddal ar y ffin ar ochr y goes gan Sam Northeast oddi ar fowlio Jamie McIlroy yn y bymthegfed pelawd, cyn i’w dîm selio’r fuddugoliaeth yn yr un belawd.
‘Tîm gwell nag y gwnaethon ni chwarae’
Yn ôl Mark Alleyne, y prif hyfforddwr fu’n siarad â golwg360 ar ddiwedd y gêm, mae Morgannwg yn dîm gwell nag y gwnaethon nhw ei ddangos yn y gêm hon.
“Pan ydych chi’n dod yma, rydych chi’n gwybod y bydd hi’n gêm anodd, ond dw i’n teimlo bod gyda ni i groesi’r llinell mewn gemau fel hon,” meddai.
“Dechreuon ni’r darn cyntaf fel roedden ni eisiau, roedd yr awr gynta’n mynd yn eithaf da ac yn amlwg doedden ni ddim wedi cael y sgôr roedden ni wedi sefydlu’n hunain i’w gael.
“Felly roedd angen i’r bowlio fod yn berffaith, gydag ambell gamgymeriad [gan Wlad yr Haf], ond wnaeth e ddim digwydd yn ddigon cyflym i ni.
“Wnaethon ni brofi bod y sgôr ychydig yn brin i gael herio go iawn.
“Yn y deg pelawd gyntaf, roedden ni arni ac roedd hi’n ymdrech dda.
“Ro’n i’n meddwl bod Ed Byrom wedi chwarae’n dda iawn ar y brig, roedd yn sylfaen dda ac fe gymerodd e opsiynau da, ac wedyn daeth Kiran [Carlson] i mewn a chwarae’n dda.
“Ond wedyn, fe wnaethon ni ddarganfod y maeswyr yn aml ac mae Gwlad yr Haf yn dîm maesu da, ac fe gymeron nhw bob cyfle.
“Roedd yn rhaid i ni gadw i fynd oherwydd roedden ni’n gwybod na fyddai 130 i 135 yn ddigon, felly roedd rhywfaint o bwysau ar y batwyr is lawr i’n cael ni i gyfanswm heriol, oedd yn golygu mwy o risg, ac fe gawson ni ein bowlio allan yn y pen draw gydag ychydig iawn o belenni’n weddill.
“Mae pethau i weithio arnyn nhw, ond dw i’n dal yn teimlo bod digon gyda ni i allu ennill gemau fel hon yn erbyn timau da fel Gwlad yr Haf.”
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg wedi ennill un gêm ac wedi colli un yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.