Bydd tîm pêl-droed Cymru yn herio De Corea eleni am y tro cyntaf erioed.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 7.

Cyrhaeddodd De Corea Rownd 16 olaf Cwpan y Byd y llynedd, gan guro Portiwgal yn eu grŵp cyn colli yn erbyn Brasil.

Bydd y gêm yn rhan o baratoadau tîm Rob Page ar gyfer y gêm ragbrofol Ewro 2024 oddi cartref yn erbyn Latfia yn Riga ar Fedi 11.