Mae David Brooks wedi’i gynnwys yng ngharfan bêl-droed Cymru am y tro cyntaf ers iddo wella o ganser.
Daw hyn wrth i’r rheolwr Rob Page gyhoeddi ei garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2024 yn erbyn Armenia a Türkiye fis nesaf.
Byddan nhw’n herio Armenia yng Nghaerdydd ar Fehefin 16, cyn teithio i Samsun i herio Türkiye dridiau’n ddiweddarach (Mehefin 19).
Cafodd Brooks, chwaraewr canol cae Cymru, ddiagnosis o lymffoma Hodgkin fis Hydref 2021.
Mae Ben Davies a Brennan Johnson ill dau yn dychwelyd i’r garfan ar ôl bod allan o’r gemau ym mis Mawrth oherwydd anafiadau, pan gafodd Cymru gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Croatia a buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Latfia.
Mae’r amddiffynnwr Joe Low wedi’i alw i’r garfan am y tro cyntaf erioed.
Mae tri chwaraewr arall heb gap yn y garfan, sef Morgan Fox, Luke Harris a Liam Cullen.
Mae Cymru’n ail yng Ngrŵp D, tra bod Türkiye yn drydydd a Latfia yn bedwerydd.
Carfan Cymru
Wayne Hennessey (Nottingham Forest), Danny Ward (Caerlŷr), Adam Davies (Sheffield United), Joe Rodon (Roazhon, ar fenthyg o Spurs), Ben Cabango (Abertawe), Chris Mepham (Bournemouth), Joe Low (Bristol City), Connor Roberts (Burnley), Morgan Fox (heb glwb), Neco Williams (Nottingham Forest), Ben Davies (Spurs), Ethan Ampadu (Spezia, ar fenthyg o Chelsea), Joe Morrell (Portsmouth), Jordan James (Birmingham), Dan James (Fulham, ar fenthyg o Leeds), Nathan Broadhead (Ipswich), Aaron Ramsey (OGC Nice), Harry Wilson (Fulham), Ollie Cooper (Abertawe), Luke Harris (Fulham), Brennan Johnson (Nottingham Forest), David Brooks (Bournemouth), Liam Cullen (Abertawe), Kieffer Moore (Bournemouth), Tom Bradshaw (Milwall).
Partneriaeth
Daeth y cyhoeddiad o Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri, fel rhan o bartneriaeth rhwng yr Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.
Roedd Rob Page ac Ian Gwyn Hughes ar y Maes ar gyfer y cyhoeddiad.
Ers blynyddoedd bellach, mae’r Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi bod yn cydweithio i godi proffil y gêm ymysg plant ac i ddathlu ein balchder a’n hunaniaeth fel gwlad.
Mae’r bartneriaeth rhwng y ddau gorff yn cryfhau’r cyfle i ymgysylltu â phlant, pobol ifanc a theuluoedd ar draws y wlad i’w hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon ac i ddathlu ein gwlad.
Fel rhan o’r bartneriaeth, cymerodd yr Urdd rhan flaenllaw yn y cynlluniau i hyrwyddo Cymru i lwyfan byd-eang yn ystod Cwpan y Byd FIFA yn Qatar y llynedd.
Ar drothwy Cwpan y Byd, aeth tîm o staff a llysgenhadon ifanc yr Urdd i Qatar i gynnal sesiynau chwaraeon a chelfyddydol mewn ysgolion yn Doha a Dubai.
Drwy’r sesiynau hyn, cyflwynodd yr Urdd Gymru, ein hiaith, diwylliant a’n gwlad i gynulleidfa newydd.
Hefyd, cynrychiolodd Côr Dyffryn Clwyd yr Urdd yn Qatar wrth ymuno ag artistiaid Cymreig amrywiol i arddangos talent Cymru i’r byd ynghyd â Jambori Cwpan y Byd yma yng Nghymru i 238,000 o blant.
Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu’r bartneriaeth i’r dyfodol gan edrych i gydweithio mwy gyda thîm cenedlaethol y merched wrth iddyn nhw gychwyn ar ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd.
“Mae perthynas yr Urdd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynd o nerth i nerth ac mae hi’n wych cael cydweithio,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Rydym yn rhannu’r un weledigaeth, sef sicrhau i ddathlu ein hunaniaeth fel gwlad gan sicrhau hefyd cyfleoedd i fwy o bobol glywed am Gymru ac i ni rannu hyn gyda gweddill y byd.
“Mae’n wych gallu gwahodd Rob Page i faes Eisteddfod yr Urdd a dwi’n ffyddiog fydd ein pobol ifanc yn mwynhau ar y Maes yn ei gwmni.”
Mae amryw o weithgareddau’n cael eu cynnal ar y Maes heddiw, gan gynnwys cerdd Amdani gyda Gethin Thomas yn y Garddorfa am 2.30yp, sesiwn o ganeuon pêl-droed gyda’r band Dros Dro am 3.30yp.
Mae’r sesiwn Drag Pêl-droed yn Cwiar na Nog wedi’i chreu’n arbennig gan Anniben a Jord Ropper ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a Gŵyl Cymru, gan gyfuno drag a phêl-droed.