Swydd Stafford, pencampwyr y gystadleuaeth ugain pelawd, yw gwrthwynebwyr Cymru ym Mhort Talbot ddydd Sul (Mai 28) ar gyfer gêm gynta’r gwpan undydd 50 pelawd.

Yn y fformat hiraf mae Cymru wedi perfformio orau dros y tymhorau diwethaf, gan gyrraedd y rownd gyn-derfynol yn 2021 a rownd yr wyth olaf y llynedd, ond gan golli’r ddau dro yn erbyn y pencampwyr Berkshire.

Mae Swydd Buckingham, Wiltshire a Dorset hefyd yn eu grŵp y tymor hwn, a dylai tair buddugoliaeth allan o bedwar sicrhau eu lle yn y rowndiau nesaf.

Mae digon o gystadleuaeth am lefydd yn y garfan, wrth i Forgannwg ryddhau Ben Morris, Andy Gorvin ac Alex Horton, ond does dim lle yn y garfan i Jack Harding, Saihaj Jaspal na Morgan Bevans, tra bod Harry Friend yn absennol oherwydd astudiaethau.

Daw Steffan Roberts i mewn i’r garfan am y tro cyntaf ers 2017, ond fe fu’n berfformiwr cyson yn Uwch Gynghrair De Cymru yn y cyfamser.

Daw Cameron Herring yn ôl ar ôl bod ar goll o’r garfan yn y gemau ugain pelawd, ac fe fydd e a Brad Wadlan yn cynnig cryn brofiad i Gymru, ac mae Will Smale wedi’i gynnwys ar ôl serennu i ail dîm Swydd Gaerloyw’n ddiweddar.

Mae’r agorwr Callum Nicholls yn cadw ei le, ac fe fydd Cameron Hemp, mab cyn-gapten Morgannwg David, yn agor y batio gyda fe.

Mae Ruaidhri Smith allan o’r garfan ar ôl ymuno â Morgannwg ar gytundeb byr.

Mae wyneb cyfarwydd yng ngharfan Swydd Stafford, sef y capten a chyn-fatiwr Morgannwg James Kettleborough.

Mae’r gêm yn dechrau am 11 o’r gloch fore Sul (Mai 28), ac mae mynediad am ddim.

Carfan Cymru: SJ Pearce (capten, Lansdown), CH Hemp (Abertawe), CR Nicholls (Sain Ffagan), BL Wadlan (Abertawe), AJ Horton (Port Talbot/Morgannwg), SH Roberts (Abertawe), WT Smale (Taunton Deane), CL Herring (Pontarddulais), AW Gorvin (Sain Ffagan/Morgannwg), RD Edwards (Castell-nedd), BJ Morris (Pontarddulais/Morgannwg), TD Phillips (Caerdydd).

Swydd Stafford: JM Kettleborough (capten), S Atkinson, T Brett, CJG Hawkins, R Haydon, MJ Hill, LJ Hurt, C Leese, MA Morris, NO Priestley, DP Richardson, PJ Wilshaw.