Dechreuodd tîm criced Morgannwg eu hymgyrch ugain pelawd gyda buddugoliaeth o ddwy wiced dros Swydd Gaerloyw ym Mryste neithiwr (nos Wener, Mai 26).
Cyrhaeddon nhw’r nod o 162 gyda phum pelen yn weddill.
Tarodd Colin Ingram 47 gwerthfawr er i David Payne, y bowliwr cyflym llaw chwith gipio tair wiced i’r Saeson.
Ben Charlesworth (56) osododd y seiliau i’r tîm cartref, ond cipiodd Jamie McIlroy dair wiced a Dan Douthwaite pedair, ffigurau gorau eu gyrfaoedd.
Mae cyfnod y prif hyfforddwr Mark Alleyne wedi dechrau gyda buddugoliaeth yn erbyn ei hen sir, felly.
Ond aeth y gair olaf, bron, i Ruaidhri Smith, sydd wedi ailymuno â Morgannwg ar gytundeb byr, wrth i’r Albanwr amryddawn daro chwech cyn i Timm van der Gugten daro’r ergyd chwech fuddugol oddi ar belen ola’r belawd olaf ond un i selio’r fuddugoliaeth.
Taith i Taunton i herio Gwlad yr Haf sydd gan Forgannwg fory (dydd Sul, Mai 28).