Mae ugain o sefydliadau chwaraeon yn Awstralia – a chyn-gricedwr Morgannwg – wedi datgan eu cefnogaeth i refferendwm er mwyn cydnabod pobol frodorol yn y Cyfansoddiad.
Daw hyn wrth i’r wlad nodi ‘Diwrnod Sori’, sy’n cydnabod blynyddoedd o anghyfiawnderau i’r Aborijini.
Ymhlith y campau sydd wedi datgan eu cefnogaeth i ‘Llais i’r Senedd’ – neu bwyllgor i gynghori ar ddeddfwriaeth yn ymwneud â phobol frodorol – mae criced, golff, rasio ceir, pêl-rwyd a badminton.
Roedd rygbi a phêl-droed Awstralaidd ymhlith y campau cyntaf i ddatgan eu cefnogaeth yr wythnos ddiwethaf.
Y disgwyl yw y bydd y refferendwm yn cael ei gynnal rhwng Hydref a Rhagfyr, a bydd gofyn i bleidleiswyr ddweud a ydyn nhw eisiau newid y Cyfansoddiad er mwyn cynnwys y Llais.
Ymhlith y sêr chwaraeon sy’n cefnogi’r newid mae Jason Gillespie, cyn-gricedwr Awstralia a Morgannwg, sydd o dras frodorol, ac roedd e’n un o dri oedd wedi darllen datganiad yn cefnogi’r refferendwm, ynghyd â Jade North (pêl-droed) a Catherine Cox (pêl-rwyd).
Mae pobol frodorol yn cyfrif am ryw 3.2% o’r boblogaeth o 26m o bobol yn Awstralia, a chollodd yr Aborijini hawliau sylfaenol adeg yr Ymerodraeth Brydeinig, a does dim sôn amdanyn nhw yn y Cyfansoddiad gafodd ei lunio 122 o flynyddoedd yn ôl.
Mae eu barn am y Cyfansoddiad wedi’i hollti, gyda rhai yn dadlau bod y ‘Llais’ yn tynnu sylw oddi ar sicrhau newidiadau ymarferol, ac mae eraill yn dadlau na ddylai sefydliadau chwaraeon ymyrryd yn y mater.
Uluru
Yn y cyfamser, mae arweinwyr brodorol yn cyfarfod yn Uluru i nodi chwe mlynedd ers sefydlu’r grŵp eirioli, Uluru Statement.
Dyma’r datganiad cyntaf yn galw am sefydlu’r Llais, pan ddaeth yr Aborijini a thrigolion Torres Strait ynghyd.
Mae Diwrnod Sori yn cofio am y miloedd o blant brodorol gafodd eu rhwygo o’u teuluoedd rhwng y 1900au a’r 1970au fel rhan o bolisi’r llywodraeth i’w plethu nhw yng nghymdeithas pobol â chroen gwyn.