Mae cynrychiolwyr fu’n cyfarfod yn Nhrelái yn dilyn gwrthdrawiad ac anhrefn yno’n ddiweddar wedi ymrwymo i sefydlu menter ar y cyd ar lawr gwlad i greu cynllun cymunedol yno.
Daw hyn ar ôl i Heddlu’r De gadarnhau bod naw o bobol yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o godi terfysg.
Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i noson o helynt nos Lun (Mai 22), yn dilyn marwolaethau Kyrees Sullivan a Harvey Evans mewn gwrthdrawiad yn y cyffiniau y noson honno, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n disgwyl arestio rhagor o bobol.
Cafodd pump o’r naw eu harestio fore ddoe (dydd Iau, Mai 25).
Cafodd pedwar dyn – sy’n 16, 17, 18 a 29 oed – eu harestio yn yr ardal, a chafodd dyn 21 oed ei arestio yn Nhremorfa.
Cafodd pedwar arall – dau lanc 15 oed ac un llanc 16 oed o ardaloedd Trelái a Llanrhymni, a merch 15 oed o’r Rhath – eu harestio ar y noson.
Maen nhw i gyd ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.
Mae’r heddlu’n dweud bod nifer o gerbydau wedi’u rhoi ar dân, fod eiddo wedi’i ddifrodi, fod plismyn wedi’u hanafu a bod “pobol wedi cael ofn yn eu cartrefi eu hunain”.
‘Dau deulu yn galaru’
“Wythnos yma, mae dau deulu yn galaru am eu meibion ac mae pobol Trelái wedi profi trawma ar y cyd,” meddai Mark Drakeford ar ôl bod yn cadeirio cyfarfod yn y gymuned.
“Mae fy nghydymdeimlad gyda theuluoedd a ffrindiau Harvey a Kyrees.
“Heddiw, cyfarfu cynrychiolwyr o’r gymuned leol ac asiantaethau cyhoeddus yn Nhrelái, gan gynnwys Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
“Rydym wedi cytuno i noddi menter ar y cyd ar lawr gwlad i greu cynllun cymunedol ar gyfer Trelái, er mwyn ymateb i anghenion hirdymor y preswylwyr. Bydd yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a chanlyniadau i bobl Drelái.”