Colofnydd gwleidyddol golwg360 sy’n dadlau mai’r unig frwydr o bwys yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw ydi honno rhwng y rheini sydd o blaid mwy o rym i Gymru a’r rheini sydd yn erbyn…


O ran eu gallu i ysbrydoli eu cefnogwyr, does dim amheuaeth fod ralïau Yes Cymru yn llwyddiant ysgubol, a doedd y ddiweddaraf dydd Sadwrn diwethaf yn ddim eithriad.

Mae apêl amlwg i ddigwyddiadau lle mae pobol o gyffelyb fryd yn cael dod at ei gilydd i gael eu hysbrydoli gan negeseuon sy’n cryfhau eu hargyhoeddiad.

Er y gellid dadlau mai dathlu hunaniaeth a chyfle i fwynhau yw hanfod apêl digwyddiadau o’r fath, gall fod gwerth sylweddol iddynt o safbwynt ysbrydoli gweithgarwch pellach. Eto i gyd, ni all YesCymru ddibynnu ar gynnal digwyddiadau fel hyn i gael y dylanwad gwleidyddol ymarferol sydd ei angen i greu newid.

Mi fydd angen amcanion mwy penodol yn un peth – oherwydd mae annibyniaeth yn amlwg am olygu pethau gwahanol i wahanol bobol. Yn y pen draw, slogan sy’n cyfleu delfryd yw ‘annibyniaeth’, yn union fel roedd ‘Cymru rydd’ yn ysbrydoliaeth i genedlaethau blaenorol.

Yn bwysicach na hynny, mae angen gweledigaeth o ran y camau sydd angen eu cymryd heddiw i ennill mwy o rym i Gymru – ac, uwchlaw popeth, i ddiogelu grymoedd presennol Senedd Cymru.

Yr unig wir frwydr o bwys

Mae’n wir y gall y nod o annibyniaeth fod yn hwb ac yn ysbrydoliaeth i lawer o ymgyrchwyr (er na allaf weld sut mae’r talfyriad dumbed-down Saesneg, ‘indy’ yn cyfrannu dim at drafodaeth ddeallus am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru). Ar yr un pryd, mae’n bwysig nad ydan ni’n gadael i annibyniaeth dynnu gormod o sylw oddi wrth y frwydr y mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth iddi ar hyn o bryd. Neges sydd angen ei hailadrodd yn barhaus yw hon:

Nid rhwng y rhai sydd o blaid neu yn erbyn ‘annibyniaeth’ y mae’r wir frwydr yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw – ond rhwng y rheini sydd o blaid cynnal a chryfhau Senedd Cymru ar y naill law, a’r rhai sydd am ei gwanhau neu ei dileu ar y llaw arall.

Y rhai sydd am wanhau neu ddileu’r Senedd ydi’r rheini sydd eisiau gweld Cymru’n cael ei thraflyncu gan Loegr – a nhw sy’n rhaid eu trechu. Ac er mwyn eu trechu, mae’n rhaid cael y glymblaid ehangach a mwyaf cynhwysol bosibl o bawb sy’n eu gwrthwynebu.

Camgymeriad strategol a thactegol, felly, fyddai polareiddio barn yn ormodol ynghylch annibyniaeth yn benodol, pan fo gwirioneddol raid cynnal undod y mwyafrif sy’n cefnogi Senedd Cymru yn erbyn ei gelynion. Yr hyn sy’n rhaid ei sicrhau ydi mai gelynion Cymru sydd yn y lleiafrif bob amser, ac nid ei gwladgarwyr mwyaf pybyr.

Golwg newydd ar annibyniaeth

Yn lle edrych ar ‘annibyniaeth’ fel nod absoliwt, byddai potensial o ennill llawer mwy o dir trwy ffordd newydd o feddwl ac wrth fframio’r cwestiwn mewn ffordd wahanol.

Yn hytrach na gofyn a ddylai Cymru fod yn annibynnol ai peidio, y cwestiwn ddylai fod pa raddau o annibyniaeth y dylai Cymru eu cael. Neu i fod yn fwy manwl, efallai, pa raddau o annibyniaeth oddi wrth Loegr – o ran yr hyn fyddai’n ddelfrydol a hefyd o ran yr hyn sy’n ymarferol.

Trwy dderbyn gwahaniaeth barn ar y mater hwn, gallai hyn gyfrannu at gynnal undod ymysg y glymblaid gyffredinol o bobol sy’n cefnogi unrhyw rymoedd ychwanegol i Gymru.

Gellid ehangu’r cwestiwn i ofyn hefyd pa raddau o annibyniaeth y dylai unrhyw wladwriaeth eu cael. Byddai hyn yn ffordd o ennyn gwawd at y Brexiteers cenedlaetholgar Seisnig hynny sydd ag obsesiwn am sofraniaeth, fel pobol sy’n ceisio gormod o lawer o annibyniaeth i’w gwlad. I’r bobol hyn, eilun addoliaeth o’r genedl wladwriaeth Brydeinig yw hanfod eu hunaniaeth Seisnig, ac mae’r cyfleoedd i ddirmygu a gwawdio agweddau o’r fath yn cynnig gôl agored i genedlaetholwyr Cymru.

Ar hyn o bryd, mae tueddiad gormodol ymysg cenedlaetholwyr Cymreig i roi gormod o sylw i unrhyw arolygon barn sy’n awgrymu cynnydd yn y ganran o boblogaeth Cymru sy’n cefnogi annibyniaeth. Mae arolygon o’r fath yn anwadal ar y gorau, ac unwaith eto, dydi’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn rhoi unrhyw amcan o ba raddau o annibyniaeth fyddai’r ymatebwyr yn eu ffafrio.

Cwestiwn llawer pwysicach i’w gofyn ar hyn o bryd fyddai:

Beth yw’r uchafswm o bwerau (neu’r graddau pellaf o annibyniaeth) fyddai’n gallu denu cefnogaeth mwyafrif o bobol Cymru heddiw?

Byddai angen buddsoddi mewn ymchwil dibynadwy, ac wedyn defnyddio hyn fel sail i ymgyrchu drosto.

Angen diffiniad cliriach

Yn y pen draw, os yw annibyniaeth am fod yn rhywbeth mwy na slogan, mi fydd yn rhaid i’r rheini sy’n arddel y nod esbonio’r math o annibyniaeth maen nhw’n ei geisio i Gymru.

Mae hyn yn gwbl wahanol i geisio pennu pa fath o bolisïau economaidd a chymdeithasol y byddai gwladwriaeth Gymreig yn eu dilyn – sy’n rhywbeth y tu hwnt i ddylanwad unrhyw ymgyrchwyr heddiw. Ar y llaw arall, nid ‘mater i Gymru ar ôl ennill annibyniaeth’ yw cwestiynau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r graddau o annibyniaeth sydd o dan sylw.

Gweld Cymru’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd fyddai dymuniad amlwg llawer o gefnogwyr annibyniaeth. Mae’n nod anrhydeddus sy’n gwbl gydnaws â gwreiddiau cenedlaetholdeb Cymraeg diweddar pan oedd arweinwyr cynnar fel Saunders Lewis yn galw am undod gwleidyddol yn Ewrop (yn eironig, roedd yr ymlyniad hwn at undod Ewropeaidd yn un o’r prif resymau pam roedd Plaid Cymru’n ymwrthod â’r term ‘annibyniaeth’ tan yn gymharol ddiweddar – ond stori arall yw honno!). Wrth gwrs, mae’r math o genedlaetholdeb Seisnig trahaus sy’n gyfrifol am Brexit yn ddigon i wneud i rywun fod eisiau torri pob cysylltiad â’r Saeson, ac â phob agwedd o’u tipyn gwladwriaeth.

Eto i gyd, ar hyn o bryd o leiaf, byddai i Gymru annibynnol fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn debygol iawn o arwain at ffin galed a chyfyngiadau masnach rhwng Cymru a Lloegr. I’r lleiafrif ohonom sydd wedi’n codi yn y diwylliant trwyadl Gymraeg, mae’n ddigon tebygol y byddem yn gweld hyn fel pris gwerth ei dalu. Ond a oes rhywun yn ei iawn bwyll yn credu y byddai gobaith mul o ennill cefnogaeth trwch pobol Cymru i sefyllfa o’r fath? Mi fyddai’r dadleuon ar blât i’r gwrthwynebwyr – fod cenedlaetholwyr Cymru’n ceisio torri pob cysylltiad efo Lloegr er mwyn cael eu rheoli gan Almaenwyr a Ffrancwyr.

Graddau llai uchelgeisiol o annibyniaeth fyddai parhau mewn undod ariannol â Lloegr/gweddill Prydain, ac mewn marchnad sengl â hi. Byddai hyn yn gynllun llai radical y gallai fod rhywfaint yn fwy o gefnogaeth iddo. Ar y llaw arall, prin y byddai’n gwneud dim i oresgyn y broblem o oruchafiaeth lethol y Saeson dros yr ynysoedd hyn. Mae’r syniad o ryw fath o bartneriaeth Brydeinig o wledydd cyfartal yn ffantasi llwyr – gan mai gan Loegr, gyda thros 80% o’r boblogaeth, a chyfran uwch na hynny o’r cyfoeth, y byddai’r holl rym.

Mae’r anghydbwysedd hwn wedi cael ei grybwyll yn aml fel y prif anhawster i Brydain gwbl ffederal. Y gwir amdani yw y byddai’n fwy fyth o anhawster mewn rhyw fath o bartneriaeth o wledydd fyddai’n annibynnol mewn enw, gan na fyddai gan y gwledydd llai ddim mymryn o lais yn llywodraeth y brif wladwriaeth.

Mewn gwirionedd, yr unig ateb fyddai’n cyfyngu ar oruchafiaeth y Saeson ar y naill law, ac a fyddai’n galluogi cynnal marchnad sengl rhwng Cymru a Lloegr, fyddai petai Prydain i gyd yn ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd; rhywbeth nad yw’n edrych yn debygol, mae’n wir – er nad lawn mor annhebygol efallai â Chymru’n pleidleisio dros ymwahanu’n llwyr â Lloegr.

Does dim pwynt gwadu bod Brexit wedi chwalu unrhyw ragolygon o drefniant boddhaol hirdymor a pharhaol i Gymru. Yr unig ffordd y daw mwy o annibyniaeth i Gymru yw trwy ennill ychydig rymoedd fesul tipyn ar y tro. Rhaid derbyn mai proses ac nid digwyddiad fydd ennill mwy o rym i Gymru gan mai ffolineb llwyr fyddai gobeithio am ryw fath o chwyldro dramatig fydd yn gweddnewid Cymru dros nos. Bydd angen hefyd bod ar ein gwyliadwriaeth barhaus i sicrhau nad ydym yn colli unrhyw dir.

Dyna pam fod mesur Dafydd Wigley yn Nhŷ’r Arglwyddi i amddifyn hawliau Senedd Cymru mor dyngedfennol. Efallai nad yw camau bach fel hyn yn cael yr un sylw â miloedd yn gorymdeithio, ond maen nhw’n haeddu lawn cymaint o gefnogaeth. Mae YesCymru i’w canmmol a’u llongyfarch ar y brwdfrydedd maen nhw wedi’i ennyn dros yr egwyddor gyffredinol o annibyniaeth i Gymru. Yr her i’r mudiad cenedlaethol dros y blynyddoedd nesaf fydd sicrhau’r un brwdfrydedd dros amcanion sy’n llai rhamantaidd, efallai, ond sy’n fwy penodol, ymarferol ac enilladwy.