Mae ymgyrchwyr tros annibyniaeth i Papua wedi bygwth lladd peilot o Seland Newydd oni bai bod gwleidyddion yn Indonesia yn fodlon gwrando arnyn nhw.
Cafodd y peilot Phillip Mehrtens ei gipio ym mis Chwefror, ac mae’r ymgyrchwyr yn mynnu mewn fideo bod rhaid dechrau trafodaethau ynghylch annibyniaeth o fewn deufis neu fe fyddan nhw’n ei saethu.
Daw’r bygythiad mewn fideo sydd wedi dod i’r fei heddiw (dydd Gwener, Mai 26).
Cafodd y peilot ei gipio ar ôl i’w awyren fasnachol lanio yn ardal fynyddig Nduga, ac mae i’w weld yn y fideo yn dal baner anghyfreithlon sy’n arwydd o annibyniaeth Gorllewin Papua, ac mae wedi’i amgylchynu gan filwyr yn dal dryllau gafodd eu cynhyrchu yn Indonesia.
Yn y fideo, dywed y peilot fod yr ymgyrchwyr eisiau i wledydd eraill y byd ac eithrio Indonesia gymryd rhan mewn trafodaethau tros annibyniaeth.
“Pe na bai hyn yn digwydd o fewn deufis, byddan nhw’n fy saethu,” meddai.
Cefndir
Dydy gweinyddiaeth dramor Indonesia na llysgenhadaeth Seland Newydd yn y wlad ddim wedi ymateb i geisiadau am ymateb i’r sefyllfa.
Dywedodd awdurdodau Indonesia eisoes eu bod nhw’n blaenoriaethau trafodaethau heddychlon i geisio rhyddhau’r peilot, ond fod y dirwedd yn gwneud hynny’n anodd.
Fe fu brwydr tros annibyniaeth yn Papua ers iddi ddod o dan reolaeth Indonesia fel rhan o bleidlais gafodd ei goruchwylio gan y Cenhedloedd Unedig yn 1969.
Ond aeth y frwydr yn ffyrnig ers 2018, gydag ymosodiadau mwy cyson wrth i arfau gael eu datblygu i fod yn fwy soffistigedig.
Mae Byddin Ryddid Gorllewin Papua yn galw ar wledydd fel Seland Newydd, Awstralia a gwledydd y gorllewin i ddechrau trafodaethau ag Indonesia ar eu rhan nhw.
Maen nhw’n dweud mai sofraniaeth, ac nid arian, yw eu nod.