Mae plaid Esquerra Republicana’n gobeithio adeiladu ar eu llwyddiant yn yr etholiadau lleol diwethaf, fel un o’r pleidiau mwyaf tros annibyniaeth yng Nghatalwnia.
Bedair blynedd yn ôl, enillon nhw 822,107 o bleidleisiau – mwy na’r un blaid arall sy’n cefnogi annibyniaeth – gyda’r Sosialwyr yn ail (768,478) a Junts per Catalunya yn drydydd (557,303).
Daethon nhw i’r brig mewn tua thraean o’r 947 o ardaloedd yn y wlad yn yr etholiad diwethaf hefyd, ac maen nhw’n sicr ar i fyny ers 2015 (510,080 o bleidleisiau) a 2011 (257,484 o bleidleisiau).
Er y byddai’n anodd rhagori ar y canlyniadau hynny y tro hwn, eu prif ffocws fydd ennill tir yn y dinasoedd.
Pwy yw Esquerra Republicana?
Llywodraeth leiafrifol Esquerra sydd mewn grym yng Nghatalwnia ar hyn o bryd, dan arweinyddiaeth Pere Aragonès.
Yn blaid asgell chwith, eu nod yw ennill annibyniaeth i Gatalwnia drwy drafod a negodi.
Ar draws Sbaen, maen nhw’n bartner yn y llywodraeth leiafrifol gyda’r Sosialwyr a Podemos, gan gefnogi nifer o fesurau allweddol.
Eu blaenoriaethau fel plaid yw cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol, tai, yr amgylchedd a’r diwylliant, ac maen nhw’n feirniadol o dorri gwasanaethau rheilffordd Rodalies, twf twristiaeth yn Barcelona a llygredd gwleidyddol hanesyddol.
Yn Barcelona, maen nhw wedi cynnig cynllun incwm sylfaenol cynhwysol, ac wedi addo sicrhau isafswm cyflog o ryw 1,500 Ewro y mis i drigolion mewn dinasoedd.
Maen nhw hefyd yn awyddus i sefydlu adrannau newydd o fewn Cyngor Barcelona i ofalu am hawliau anifeiliaid a phobol ifanc, ac mae eu hymgeisydd i fod yn Faer wedi cynnig sefydlu canolfan fwyd i hybu bwydydd cenedlaethol Catalwnia.
Yn ôl rhai o fewn y blaid, nhw yw’r blaid fwyaf sosialaidd a’r fwyaf o blaid annibyniaeth.
Maen nhw’n perfformio’n arbennig o dda mewn ardaloedd gwledig, ond bydd ganddyn nhw gryn her o du Junts per Catalunya yn y cadarnleoedd lle mae’r gefnogaeth i annibyniaeth gryfaf.
Ond bydd y ddwy blaid yn wynebu cystadleuaeth gan CUP, plaid arall sydd o blaid annibyniaeth ac sy’n gryf mewn ardaloedd gwledig hefyd.