Bydd Cymdeithas yr Iaith a’r elusen meddwl.org yn cynnal trafodaeth banel ddydd Llun (Mai 29) am bwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd a lles i blant a phobol ifanc yn Gymraeg.

Bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal ar Faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.

Dr Llinos Roberts, yr ymgyrchydd iaith a meddyg teulu, fydd yn arwain y drafodaeth gyda Dr Rhys Bevan Jones, seiciatrydd fydd yn trafod iechyd meddwl pobol ifanc a dwyieithrwydd; Non Parry, y gantores, ysgrifennydd sgriptiau a myfyrwraig MA mewn Ymarfer Seicotherapiwtig; a Iestyn Gwyn Jones, fydd yn sôn am ei brofiadau o ddarpariaeth iechyd meddwl yn Gymraeg – a’i ddiffyg.

Yn ôl Gwerfyl Roberts, cadeirydd Grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith, “mae’n addas ein bod ni’n tynnu sylw at ddiffyg gwasanaethau iechyd Cymraeg i bobol ifanc yn yr ŵyl fwyaf i bobol ifanc yn Ewrop ac sy’n digwydd yn Gymraeg”.

“Wythnos yma, bydd cyfle i bobol Cymru weld, clywed a defnyddio’r Gymraeg yn hollol naturiol, ond os ydyn nhw am drafod materion sensitif yn Gymraeg gyda gweithwyr iechyd neu les, mae’n annhebygol y byddan nhw’n gallu gwneud hynny,” meddai.

“Mae Confensiwn Hawliau Plant a Phobol Ifanc Cymru Cynghrair Cenhedloedd Unedig yn nodi pa hawliau sydd gan blant – fel yr hawl i fywyd ac i dyfu’n iach, i ofal arbennig a chymorth er mwyn byw bywyd llawn ac annibynnol, i weld y meddyg ac i ddefnyddio’u hiaith eu hunain.

“Er hynny, dydy’r hawliau hynny ddim yn cyd-gysylltu yng Nghymru ar hyn o bryd – does dim sicrwydd o gael gwasanaethau iechyd a lles yn Gymraeg.”

‘Dim bai ar weithwyr iechyd’

“Does dim bai ar unigolion sydd yn gweithio ym maes iechyd i ddarparu’r gwasanaethau,” meddai Dr Llinos Roberts.

“Mae angen cynllunio’r gweithlu fel bod y Gymraeg yn rhan o hyfforddiant staff newydd gwasanaeth iechyd a lles, a bod y gweithlu presennol yn cael cyrsiau i ddysgu neu loywi eu Cymraeg er mwyn gallu ei defnyddio’n hyderus.”

Dywed Non Parry ei bod hi wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil i bwysleisio pwysigrwydd adnoddau iechyd meddwl Cymraeg, a hynny fel rhan o’i gradd Meistr.

“Mae’n ddigon anodd cyfleu a rhannu profiadau iechyd meddwl fel mae, ond mae’n anoddach fyth os nad ydi o’n bosib yn eich iaith gyntaf,” meddai.

“Mae’n fwy na phwysig, mae’n hanfodol i allu rhannu eich teimladau yn yr iaith rydach chi’n ‘teimlo’.”